Wedi ei bostio ar 25 Ionawr 2010

Helgard Krause
Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru gyhoeddi mai Helgard Krause yw Pennaeth newydd Gwasg Prifysgol Cymru.
Daw Helgard yn wreiddiol o dde’r Almaen, ac ynghyd â’i gallu mewn amryw o ieithoedd, mae’n dod â chyfoeth o brofiad cyhoeddi academaidd, proffesiynol, darluniadol a masnach gyda hi.
Tan yn ddiweddar Hegard oedd Pennaeth Gwerthiant a Marchnata Cyngor Llyfrau Cymru yn Aberystwyth. Cyn hynny bu’n gweithio fel Pennaeth Gwerthiant a Hawliau Cyhoeddwyr Rockport/RotoVision yn Brighton. Hefyd treuliodd flwyddyn yn gweithio yn y diwydiant llyfrau yn Rwsia, ond dechreuodd ei gyrfa gyhoeddi yn gweithio i Routledge.
Sefydlwyd Gwasg Prifysgol Cymru ym 1922 ac mae’n eiddo’n llwyr i Brifysgol Cymru. Mae’r Wasg yn cyhoeddi yn agos i drigain o deitlau newydd bob blwyddyn yn Gymraeg a Saesneg, gan ganolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau o Hanes i Astudiaethau Ewropeaidd. Ynghyd â’i hanes o gyhoeddi ymchwil arloesol, mae’r Wasg hefyd yn mwynhau llwyddiant poblogaidd, gan ennill dwy wobr yn 2009.
Enillodd Jane Aaron wobr Roland Mathias am ei llyfr, ‘Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales’ a chipiodd Tudur Hallam wobr Syr Ellis Griffiths am ei gyfrol, ‘ Canon Ein Llên. ’ Gwasg Prifysgol Cymru hefyd oedd yn gyfrifol am gyhoeddi cyfrol hynod lwyddiannus Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig y llynedd, y cyfeirlyfr mwyaf uchelgeisiol i’w gyhoeddi am Gymru erioed.
Mae Helgard, sydd ar hyn o bryd yn byw yn Aberaeron, Ceredigion, wrth ei bodd â’i rôl newydd:
“Mae’n fraint i mi gael ymuno â chyhoeddwr sydd mor bwysig i Gymru a’i chymuned academaidd. Rwyf i wrth fy modd i gael y cyfle hwn i weithio gyda’r unigolion hynod dalentog sydd wedi sicrhau fod y Wasg wedi parhau i gyhoeddi llyfrau o’r ansawdd uchaf yn ystod cyfnod o drawsnewid. Daw rhai heriau difrifol yn sgil y newidiadau technolegol cyflym sy’n effeithio ar yr holl sector cyhoeddi, ond fe fyddaf i’n sicrhau y bydd y Wasg mewn sefyllfa dda i addasu i’r newidiadau angenrheidiol a hefyd i groesawu’r cyfleoedd fydd yn dilyn.”
Gan groesawu Helgard i Wasg Prifysgol Cymru, dywedodd Stephen Owen, Cyfarwyddwr Busnes Prifysgol Cymru:
“Mae’r penodiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol i Wasg Prifysgol Cymru mewn cyfnod o newid enfawr o ran pwyslais cyhoeddi yn y sector ym mhob rhan o’r byd. Wrth groesawu Helgard ar ran y Brifysgol a’i chydweithwyr newydd i gyd, rwyf i’n hapus iawn fod rhywun sydd â’r fath brofiad o’r byd cyhoeddi lleol a thramor wedi derbyn y swydd. Gydag unigolyn fel Helgard wrth y llyw, gall y Wasg wynebu’r dyfodol â hyder.”
/Diwedd
I gael gwybodaeth i’r Wasg a’r Cyfryngau, cysyllter â Joanna Davies, Pennaeth Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: j.davies@cymru.ac.uk Ffôn: 07534 228754
I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru ewch i:
http://www.uwp.co.uk/
I gael rhagor o wybodaeth am Wyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig ewch i:
http://www.gwyddoniadurcymru.com/cymraeg/hafan/