Wedi ei bostio ar 15 Medi 2017

Ari Espinoza a Natalie Williams
Gyda delweddau artistig o lechweddau sy’n erydu, craterau ardrawiad, tirweddau pegynol anghyffredin, eirlithradau a lluniau rhyfeddol o ddisgyniad chwilwyr fel y Phoenix Lander a Labordy Gwyddoniaeth Mawrth, mae cyhoeddiad newydd gan Wasg Prifysgol Arizona yn gwahodd y darllenydd ar daith weledol ar draws arwyneb y blaned Mawrth.
Yn Mars: The Pristine Beauty of the Red Planet ceir yn agos i 200 o ffotograffau sydd wedi’u dewis yn ofalus o blith delweddau a dynnwyd gan gamera HiRISE (High Resolution Imaging Science Experiment) dan arweiniad Prifysgol Arizona, sydd wedi bod yn cylchu Mawrth ar Gylchwr Rhagchwilio Mawrth NASA ers 2006. Yn cyd-fynd â phob delwedd fanwl ceir capsiynau eglurhaol mewn 24 o ieithoedd gwahanol, gyda Chymraeg yn eu plith.
Crynhowyd y cyhoeddiad a’i awduro gan Alfred McEwen, prif ymchwilydd prosiect HiRISE, Candice Hansen-Koharcheck, dirprwy brif ymchwilydd HiRISE, ac Ari Espinoza, cydlynydd allgymorth HiRISE, a deilliodd o The BeautifulMars Project oedd yn hybu’r syniad bod gwybodaeth am y blaned Mawrth yn eiddo i bawb.
Fel rhan o’r prosiect, mae gwirfoddolwyr o bedwar ban byd yn cyfieithu’r capsiynau i 24 iaith ar gyfer y miloedd o ddelweddau a ddaliwyd gan y camera, y camera mwyaf pwerus a chydraniad uchel a anfonwyd at blaned arall erioed, a dyma’r unig adnodd NASA i ddefnyddio’r Gymraeg. Yna cafodd rhai o’r delweddau hyn eu dethol ar gyfer y cyhoeddiad sy’n gyfrol unigryw wedi’i chynhyrchu o gyrch gweithredol NASA.
Yn ogystal â chapsiynau Cymraeg, mae’r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys dyfyniadau gan feirdd Cymraeg a dyfyniadau o nifer o gyhoeddiadau yng nghyfres ‘Writers of Wales’ Gwasg Prifysgol Cymru (GPC).
I helpu i hyrwyddo’r prosiect a dathlu’r cyhoeddiad cyntaf erioed gan gyrch gweithredol NASA i ddefnyddio’r Gymraeg, ymwelodd y cydawdur Ari Espinoza â Chymru a chyfarfu â staff GPC i roi copi o’r cyhoeddiad i’r Brifysgol a phobl Cymru ar ran Prifysgol Arizona a’r prosiect. Yn gyfnewid, rhoddodd y Brifysgol gopi o Wyddoniadur Cymru’r Brifysgol iddo. Yn ystod ei amser yng Nghymru, bu Ari hefyd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe ac ymwelodd ag Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd lle bu’n siarad gyda myfyrwyr TGAU a Safon Uwch.
Wrth sôn am y prosiect, a chynnwys y Gymraeg yn rhan ohono, dywedodd Ari:
“Mae’n bleser i ni gael defnyddio iaith y Nefoedd nawr i ddisgrifio rhywbeth yn y Nefoedd.”
Yn ysbryd ‘camera’r bobl ar y blaned Mawrth’ caiff yr holl ddelweddau a anfonir yn ôl i’r Ddaear eu cyhoeddi ar wefan HiRISE. Ceir ffrwd twitter hefyd o’r cyrch sydd â fersiwn Cymraeg - @HiRISEWelsh
Ceir rhagor o wybodaeth am The BeautifulMars Project a HiRISE ar y wefan - https://www.uahirise.org/epo/
Mae’r cyhoeddiad Mars: The Pristine Beauty of the Red Planet ar gael mewn siopau llyfrau ac ar-lein: http://www.uapress.arizona.edu/Books/bid2683.htm
/DIWEDD
Am fwy o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru ewch at: www.uwp.co.uk/cy/
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch at: www.cymru.ac.uk
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Prifysgol Cymru: cyfathrebucymru.ac.uk