Wedi ei bostio ar 14 Ionawr 2015
Mae’n bleser gan Wasg Prifysgol Cymru gyhoeddi bod Cyfrol 16 o The Journal of Celtic Linguistics a gyhoeddir yn flynyddol ym mis Rhagfyr bellach ar gael i’w brynu mewn fersiwn ar lein neu brint.
Mae The Journal of Celtic Linguistics yn cyhoeddi erthyglau ac adolygiadau ar bob agwedd o ieithyddiaeth yr ieithoedd Celtaidd, yn fodern, canoloesol a hynafol, gyda phwyslais penodol ar astudiaethau cydamserol (astudiaeth o iaith ar bwynt penodol mewn amser) heb anghofio gwaith diacronig a hanesyddol-gymharol.
Mae’r cyfnodolyn hwn o ddiddordeb penodol i fyfyrwyr ieithoedd ac astudiaethau Celtaidd yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn dilyniant ieithyddol o fewn yr ieithoedd Celtaidd a hanes ieithyddol.
Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw’r golygydd, Dr Simon Rodway, ac mae’n cael cymorth aelodau o’r bwrdd golygyddol mewn sefydliadau uchel eu parch sy’n cynnwys Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway, a Philipps-Universität Marburg yn yr Almaen.
Gwahoddir papurau i’r cyfnodolyn yn Saesneg, Ffrangeg neu Almaeneg ar bob maes/’lefel’ o ddadansoddi; ffonoleg, morffoleg, cystrawen, semanteg, pragmateg; ffurfiol neu swyddogaethol, teiplolegol traws-ieithyddol neu ieithyddol-fewnol, dialectolegol neu sosioieithyddol, unrhyw baradeim damcaniaethol.
/Diwedd
The Journal of Celtic Linguistics, Volume 16 (Gwasg Prifysgol Cymru, Rhagfyr 2014)
Golygydd: Dr Simon Rodway
ISSN: 0962-1377
Sefydliadau
Print yn unig £50.00
Ar lein yn unig £50.00
Cyfunol £90.00
Unigolion
Print yn unig £30.00
Ar lein yn unig £30.00
Cyfunol £50.00
Am ragor o wybodaeth am sut i danysgrifio neu i gyflwyno papurau, cliciwch yma