Wedi ei bostio ar 9 Medi 2010

Plant o Wlad y Basg
Yn dilyn yr anhrefn yn sgil dechrau’r Rhyfel Cartref yn Sbaen ym 1937, gwahanwyd 8862 o blant o wlad y Basg oddi wrth eu rhieni a’u hanfon o ar long o borthladd Bilbao i Southampton.
Yn Fleeing Franco gan Hywel Davies (i’w gyhoeddi ym mis Chwefror 2011) ceir hanes y plant Basgaidd a ddaeth i Gymru o erchylltra’r Rhyfel Cartref, yn dilyn arswyd y bomio dychrynllyd o’r awyr uwchben dinas Guernica (yng ngwlad y Basg) gan awyrennau Almeinig y Luftwaffe.
Trwy gydol yr haf anfonwyd y plant i wersylloedd drwy Brydain. Roedd pedair o’r “trefedigaethau” hyn yng Nghymru, Brechfa yn Sir Gaerfyrddin, Parc Sgeti yn Abertawe, Hen Golwyn yn y Gogledd a Chaerllion. Roedd y croeso oedd yn eu haros yn gyfuniad o elyniaeth a charedigrwydd. Ym Mrechfa cafwyd digwyddiad penodol oedd yn cadarnhau mor anfodlon oedd llawer i dderbyn dieithriaid, ond mewn ardaloedd eraill o Gymru cafwyd nifer o enghreifftiau o garedigrwydd mawr.
Mae’r gyfrol arloesol hon yn cofnodi profiadau’r plant a alltudiwyd ac yn gofnod i haneswyr sydd wedi’i ysgrifennu mewn arddull hygyrch fydd yn apelio at y darllenydd cyffredin. Yn ogystal mae’r testun yn anfarwoli tystiolaeth y “plant” a oroesodd drwy blethu cyfweliadau â naratif sy’n llifo.
Bydd pwnc Fleeing Franco yn apelio at ddarllenwyr eang. Mae themâu alltudio a dianc rhag gwrthdaro yn taro tant cyfoes amlwg.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Fleeing Franco: How Wales Gave Shelter to Refugee Children from the Basque
Country during the Spanish Civil War gan Hywel Davies
£14.99 | PB| 9780708323366 | 192 tudalen | 234x156 mm – i’w gyhoeddi: Chwefror 2011
I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru ewch i:
www.uwp.co.uk I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i
www.cymru.ac.uk I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru:
t.barrett@cymru.ac.uk 02920 376991