Fleeing Franco

Wedi ei bostio ar 22 Mawrth 2011
franco

Fleeing Franco gan Hywel Davies

Yn dilyn yr anhrefn yn sgil dechrau’r Rhyfel Cartref yn Sbaen ym 1937, gwahanwyd 8862 o blant o wlad y Basg oddi wrth eu rhieni a’u hanfon o ar long o borthladd Bilbao i Southampton.

Yn Fleeing Franco gan Hywel Davies, a gyhoeddwyd gan y Wasg Prifysgol Cymru y mis hwn, ceir hanes y plant Basgaidd a ddaeth i Gymru o erchylltra’r Rhyfel Cartref, yn dilyn arswyd y bomio dychrynllyd o’r awyr uwchben dinas Guernica (yng ngwlad y Basg) gan awyrennau Almeinig y Luftwaffe.

Trwy gydol yr haf anfonwyd y plant i wersylloedd drwy Brydain. Roedd pedair o’r “trefedigaethau” hyn yng Nghymru, Brechfa yn Sir Gaerfyrddin, Parc Sgeti yn Abertawe, Hen Golwyn yn y Gogledd a Chaerllion. Roedd y croeso oedd yn eu haros yn gyfuniad o elyniaeth a charedigrwydd. Ym Mrechfa cafwyd digwyddiad penodol oedd yn cadarnhau mor anfodlon oedd llawer i dderbyn dieithriaid, ond mewn ardaloedd eraill o Gymru cafwyd nifer o enghreifftiau o garedigrwydd mawr.

Mae’r gyfrol arloesol hon yn cofnodi profiadau’r plant a alltudiwyd ac yn gofnod i haneswyr sydd wedi’i ysgrifennu mewn arddull hygyrch fydd yn apelio at y darllenydd cyffredin. Yn ogystal mae’r testun yn anfarwoli tystiolaeth y “plant” a oroesodd drwy blethu cyfweliadau â naratif sy’n llifo.

Bydd pwnc Fleeing Franco yn apelio at ddarllenwyr eang. Mae themâu alltudio a dianc rhag gwrthdaro yn taro tant cyfoes amlwg.

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion

Fleeing Franco: How Wales Gave Shelter to Refugee Children from the Basque
Country during the Spanish Civil War gan Hywel Davies -
£14.99 | PB| 9780708323366 | 192 tudalen | 234x156 mm

I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru ewch i: www.uwp.co.uk

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau