Wedi ei bostio ar 5 Ebrill 2013
Y mis hwn, bydd Gwasg Prifysgol Cymru’n cyhoeddi casgliad cyffrous newydd sy’n ailystyried ac yn ailddarllen arwyddocâd lleoliad mewn ffuglen trosedd.
Mae Crime Fiction in the City: Capital Crimes, a olygwyd gan Lucy Andrew a Catherine Phelps, yn ehangu ar astudiaethau blaenorol o’r gofod trefol a throsedd drwy adfyfyrio ar y driniaeth o’r brif ddinas, sy’n ystorfa awdurdod, hunaniaeth genedlaethol a diwylliant, mewn ffuglen trosedd.
Hon yw’r gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres European Crime Fictions, ac mae’n gasgliad eang sy’n edrych ar brif ddinasoedd ar draws Ewrop, o’r canolfannau grym mwy traddodiadol - Paris, Rhufain a Llundain - i brif ddinas fwyaf gogleddol Ewrop, Stockholm. Mae’n bwysig nodi nad canolbwyntio’n unig ar y prif ddinasoedd sydd wedi’u cysylltu â’r genre ers tro a wneir, ond hefyd mae’n ystyried dinasoedd fel Caerdydd, Caeredin a Dulyn, sydd yn ymwneud yn fwy â hunaniaethau cenedlaethol sy’n datblygu.
Mae’r testunau dan sylw yn rhychwantu’r straeon dirgelwch dinesig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i ffuglen trosedd boblogaidd gyfoes. Mae’r casgliad yn agor gydag ysgrif adfyfyriol gan Ian Rankin ac mae’n ceisio sefydlu dialog rhwng ysgrifennu trosedd Saesnig ac Ewropeaidd; archwilio gweithiau ymylol awduron Gwyddelig a Chymreig ochr yn ochr ag awduron trosedd Ewropeaidd profiadol a thrafod y berthynas rhwng ffaith a ffuglen, creadigrwydd a beirniadaeth, o fewn genre trosedd.
Bydd y casgliad yn apelio at academyddion ac eraill sydd â diddordeb mewn ffuglen trosedd, ac mae iddo drylwyredd academaidd ynghyd ag apêl boblogaidd.
Mae Lucy Andrew a Catherine Phelps yn fyfyrwyr PhD a thiwtoriaid ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd.
/Diwedd
Crime Fiction in the City: Capital Crimes (Ebrill 2013)
Golygyddion: Lucy Andrew a Catherine Phelps
Cyfres: European Crime Fictions
£90 •HB • 9780708325865 • 234x156 mm • 208pp