Wedi ei bostio ar 21 Hydref 2011

O'r chwith: Huw Edwards, Yr Arglwydd Kenneth O. Morgan, Yr Arglwydd Morris, Paul Murphy AS a Michael White o'r Guardian (Ffoto: Angharad Watkins)
Roedd Prif Weinidog Cymru a’r newyddiadurwr sydd â Bafta i’w enw, Huw Edwards, ymhlith y ffigurau nodedig a welwyd yn lansio hunangofiant yr Arglwydd Morris o Aberafan, sydd wedi derbyn cryn ganmoliaeth.
Yr wythnos hon, dathlwyd hunangofiant yr Arglwydd Morris o Aberafan, Fifty Years In Politics and Law, mewn dau ddigwyddiad lansio a drefnwyd gan y cyhoeddwyr, Gwasg Prifysgol Cymru.
Ddydd Llun, 17 Hydref, cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn Nhŷ’r Cyffredin yn Llundain, gyda llawer o gymheiriaid yr Arglwydd Morris, cyfreithwyr amlwg, ASau a darllenwyr brwd yn bresennol. Ymhlith y siaradwyr roedd y Gwir Anrhydeddus Paul Murphy AS, John Davies, y newyddiadurwr Huw Edwards; yr Athro Arglwydd Morgan; Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Medwin Hughes a Golygydd Cynorthwyol y Guardian, Michael White.
Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd oedd lleoliad yr ail lansiad ddydd Mawrth 18 Hydref. Roedd y siaradwyr yno yn cynnwys Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones AC, yr Athro Peter Stead, y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Morris o Aberafan KG QC a Chyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, Helgard Krause.
Ar ôl cael ei ethol i gynrychioli Aberafan fel AS Llafur ym 1959, ymddeolodd yr Arglwydd Morris fel yr AS Cymreig â’r cyfnod hiraf o wasanaeth yn 2001. Mae’n un o nifer fach yn unig o weinidogion Llafur i gael swydd yn Llywodraethau Harold Wilson, James Callaghan a Tony Blair.
Mae ei hunangofiant yn cynnig golwg ddifyr ar bersonoliaethau a digwyddiadau o’i blentyndod yn y canolbarth, dechrau ei yrfa wleidyddol ddiwedd y 1950au, ei benodi’n Ysgrifennydd Cymru ym 1974 a chyfnod datganoli y 1970au; ac yn olaf ei rôl fel Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr ddiwedd y 1990au.
Ceir hanes digwyddiadau rhyfeddol yn y gyfrol, megis ei ran yn y penderfyniad i fomio Kosovo, yn ogystal â’i rol yn natblygiad a gweithrediad datganoli i Gymru, a’i ymdrechion diflino i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
Wrth sôn am ei gyfrol newydd, dywedodd yr Arglwydd Morris:
“Mae fy stori yn sôn am farchogaeth dau geffyl, gwleidyddiaeth a’r gyfraith, am dros hanner can mlynedd gan ganolbwyntio ar fy mherthynas â thri Phrif Weinidog y bûm i’n gwasanaethu oddi tanynt – Wilson, Callaghan a Blair. Gan fod fy mywyd cyfan wedi ymwneud â gwleidyddiaeth Cymru mae’n olrhain y rhan a chwaraeais i a datblygiad y syniad o ddatganoli. Yn y rhan olaf rwyf i’n cofnodi fy mhenodiad yn Dwrnai Cyffredinol ac yn egluro’r materion a gododd yn ystod fy stiwardiaeth fel Prif Gynghorydd Cyfreithiol i’r Llywodraeth a rhyfel Kosovo yn benodol.”
Heddiw, mae’r Arglwydd Morris yn Ganghellor Prifysgol Morgannwg, swydd y mae wedi bod ynddi er 2002.
/Diwedd
Fifty Years in Politics and the Law - Y Gwir Anrh Arglwydd Morris £24.99 – Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru | HB| 9780708324189 | 234x156mm
Nodiadau i Olygyddion:
I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru ewch i:
www.uwp.co.uk I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru:
t.barrett@cymru.ac.uk 02920 376991