Wedi ei bostio ar 19 Awst 2016
Lle mae cefnforoedd, tir ac atmosffer yn cyfarfod, mae tri grym deinamig yn cyfrannu at esblygiad ffisegol ac ecolegol arfordiroedd.
Mae’r trydydd argraffiad o Coastal Systems gan yr Athro Simon Haslett, a gyhoeddwyd y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, yn rhoi amlinelliad o’r prosesau, tirffurfiau, ecosystemau a’r dulliau o reoli’r amgylchedd byd-eang pwysig hwn, gan gynnwys effaith stormydd a tswnamis ar esblygiad ein harfordiroedd. Mae hefyd yn atodiad pwysig i drafodaethau cyfoes ar gynhesu byd-eang.
Mae arfordiroedd yn systemau ymatebol, sy’n ddeinamig ynddynt eu hunain, gyda mewnbynnau ac allbynnau adnabyddadwy o ynni a deunydd, ac wrth ddarparu cartref i dros hanner poblogaeth ddynol y byd, maent yn llefydd lle mae pobl yn aml yn gwrthdaro â natur.
Mewn penodau gyda darluniau ac astudiaethau achos cyfoes o bob cwr o’r byd, mae Coastal Systems yn cadarnhau pwysigrwydd arfordiroedd o fewn fframwaith o systemau – mae tonnau, llanw, afonydd a newid yn lefel y môr oll yn chwarae rhan hollbwysig yn esblygiad ein harfordiroedd.
Daw’r Athro Haslett o gefndir academaidd fel Athro ym maes Daearyddiaeth Ffisegol ac mae hefyd yn Brif Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Ym mis Hydref 2015 daeth yn Ddirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb dros weithgareddau Cyfoethogi a Rhyngwladol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau a dros 100 o erthyglau gwyddonol, ac mae hefyd yn ddarlledwr sy’n ymddangos yn rheolaidd ar deledu a radio ac sy’n ysgrifennu erthyglau yn y wasg boblogaidd. Ef yw Golygydd Cyswllt y Journal of Coastal Research.
Mae Coastal Systems ar gael i’w brynu yn awr ar wefan Gwasg Prifysgol Cymru - http://www.uwp.co.uk/cy/editions/9781783169009
Coastal Systems gan Simon K. Haslett (Gwasg Prifysgol Cymru, Gorffennaf 2016)
£34.99 • Clawr Meddal • 9781783169009 • 172mm x 244mm• 240 tudalen