Cardiganshire and the Cardi, C.1760-c.2000: Locating a Place and Its People

Wedi ei bostio ar 20 Mehefin 2011

Sir a hen deyrnas yng nghanol gorllewin Cymru yw Ceredigion, neu Cardigan fyl y caiff ei hadnabod yn Saesneg. Mae llyfr newydd a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru’r mis hwn yn archwilio’r modd y mae’r sir Gymreig nodedig hon a’i thrigolion (Cardis) wedi cael eu cynrychioli yn ystod yr oes fodern ddiweddar.

Mae’r llyfr yn disgrifio delwedd Ceredigion a’r Cardi fel un sydd wedi newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod, ac mae’r hanes cynrychioliadol hwn yn archwilio’r rhesymau dros y newid hwn. Trwy wneud hyn, mae’r astudiaeth yn dadorchuddio amrywiaeth o safbwyntiau am y sir. Caiff pob un o’r safbwyntiau hyn eu dadansoddi , eu rhoi mewn cyd-destun a’u gosod yn erbyn ei gilydd. Mae’r darlun sy’n ymddangos yn un o le a phobl yr oedd sylwebyddion yn edrych atynt gyda’u gobeithion a’u pryderon.
 
Mae Mike Benbough-Jackson yn Uwch Ddarlithydd mewn Hanes ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl. Mae wedi ysgrifennu nifer o erthyglau ar hanes diwylliannol a chymdeithasol Cymru a’i phobl.

/Gorffen

Nodiadau i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru ewch i: www.gpc.co.uk

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau