Wedi ei bostio ar 9 Hydref 2020

CAWCS
Gwobrau blynyddol Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd wedi dyfarnu ei gwobrau blynyddol i dri awdur o Gymru.
Mae Gwobr Hywel Dda, Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith a Dyfarniad / Gwobr Goffa Vernam Hull yn wobrau blynyddol a gyflwynir gan y Ganolfan am gyhoeddiadau academaidd ac enillwyr eleni yw’r Athro R. Gwynedd Parry; Dr Diana Luft a’r Athro Hazel Walford Davies.
“Roedd safon y gystadleuaeth am y tair gwobr yn uchel iawn eleni, ac mae Prifysgol Cymru yn falch iawn o'r cyfle hwn i gydnabod ysgolheictod newydd o'r radd flaenaf,” meddai’r Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.
Derbyniodd Yr Athro R. Gwynedd Parry o Brifysgol Abertawe Wobr Hywel Dda am ei gyfrol Y Gyfraith yn ein Llên (Gwasg Prifysgol Cymru), cyfrol arloesol sydd yn adrodd hanes yr ymateb llenyddol i syniadau, swyddogion a sefydliadau’r gyfraith.
Ceir ynddi astudiaeth thematig a phanoramig sydd yn olrhain y gyfraith mewn llenyddiaeth Gymraeg o’r oesoedd canol cynnar hyd at ein dyddiau ni. Cawn foli a marwnadu, diolch a dychanu, chwerthin a chrio, oll yn tystio i bwysigrwydd y gyfraith mewn cymdeithas ac i swyddogaeth llên fel cyfrwng i fynegi barn ar gyfiawnder. Deuwn hefyd i ddeall priod le’r gyfraith i’n hunaniaeth genedlaethol ar hyd yr oesau, a hynny trwy gyfrwng crefft ac awen. Dyma’r tro cyntaf i astudiaeth gynhwysfawr o’r maes ymddangos, ac y mae’n torri tir newydd mewn hanesyddiaeth gyfreithiol Gymreig yn ogystal â chyfrannu’n bwysig i hanesyddiaeth lenyddol.
Mae’r Athro R. Gwynedd Parry yn academydd ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn fargyfreithiwr. Yn 2010 cafodd ei ethol yn Gymrawd i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, ac yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.
Daw’r wobr hon o incwm cronfa a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus i goffáu dathlu milflwyddiant Hywel Dda yn 1928.
Meddai’r Athro R.Gwynedd Parry: “Anrhydedd o’r mwyaf yw cael derbyn Gwobr Hywel Dda, yn enwedig wrth gofio am enillwyr y gorffennol a'u cyfraniadau arloesol i'r maes. Mawr yw fy nyled i’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd am y gydnabyddiaeth werthfawr hon. Rwy’n ddiolchgar hefyd i Wasg Prifysgol Cymru am eu cefnogaeth a’u gofal wrth ddwyn y gyfrol i’r golau.”
Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith i’r Athro Hazel Walford Davies am ei chyfrol, O.M. - Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (Gwasg Gomer), ycofiant cyflawn cyntaf erioed am fywyd O.M. Edwards.
Yn wleidydd, ysgolhaig, llenor, a chylchgronnwr o Lanuwchllyn, Gwynedd, roedd Owen Morgan Edwards yn adnabyddus am gyhoeddi cylchgronau i oedolion a phlant yn ogystal ag ysgrifennu llyfrau ac ysgrifau ar hanes, gwleidyddiaeth, a theithio.
“Hyfrydwch a braint arbennig i mi yw derbyn y wobr bwysig hon, a hynny yn 2020, canmlwyddiant marwolaeth Syr O.M. Edwards, un o gymwynaswyr mwyaf ein cenedl,” meddai Hazel Walford Davies.
Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y gwaith gorau yn y Gymraeg am lenorion Cymraeg neu am eu gweithiau, neu am arlunwyr neu grefftwyr Cymreig neu eu gweithiau hwy. Daw’r Wobr o Gronfa a godwyd yn Sir Fôn ac yn Llundain yn bennaf i gofio enw’r diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860-1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn.
Cyflwynwyd Dyfarniad / Gwobr Goffa Vernam Hull i Dr Diana Luft am ei chyfrol Medieval Welsh Medical Texts (Gwasg Prifysgol Cymru).
Yn gyfieithydd profiadol, bu Dr Diana Luft hefyd yn Gymrawd Ymchwil Ymddiriedolaeth Wellcome yn y Ganolfan Astudiaethau Uwch Gymreig a Cheltaidd rhwng 2015-19.
Mae’r gyfrol hon yn cyflwyno'r argraffiad beirniadol cyntaf a'r cyfieithiad o gorpws ryseitiau meddygol Cymraeg canoloesol a briodolir yn draddodiadol i Feddygon Myddfai. Mae'r rhain yn cynnig triniaethau ymarferol ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau bob dydd fel y ddannoedd, rhwymedd a gowt. Mae'r ryseitiau wedi'u golygu o'r pedwar casgliad cynharaf o destunau meddygol Cymraeg mewn llawysgrif, sy'n dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg.
“Hoffem ddiolch i’r pwyllgor am benderfynu anrhydeddu Medieval Welsh Medical Texts eleni,” meddai Dr Diana Luft. “Mae’n fraint wirioneddol cael cydnabyddiaeth o’r fath am y gwaith, yn arbennig o ystyried y sawl y dyfarnwyd y wobr hon iddynt yn y gorffennol, a nifer y gweithiau rhagorol a gyhoeddwyd yn y maes eleni. Mae hwn yn anrhydedd annisgwyl, ac rwyf yn ddiolchgar iawn amdano.”
Daw Dyfarniad / Gwobr Goffa Vernam Hull o incwm cymynrodd o $10,000 i Brifysgol Cymru gan y diweddar Dr Vernam Edward Nunnemacher Hull (1894-1976), Athro mewn Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard, y dyfarnwyd iddo radd DLitt honoris causa gan Brifysgol Cymru ar achlysur y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol yn 1963.
Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn cael ei hadnabod fel canolfan ragoriaeth ryngwladol am ei gwaith o ran y Gymraeg ynghyd ag ieithoedd, llenyddiaethau, hanes a diwylliannau’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan hefyd yn gyfrifol am gynnal Geiriadur Prifysgol Cymru ac ymhlith y nifer o brosiectau adnabyddus mae ei gwaith ar Feirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr. Mae ei gwaith cyfredol yn cwmpasu hanes cynnar yr ieithoedd Celtaidd, Cwlt y Seintiau yng Nghymru, llên teithio ac enwau lleoedd