Wedi ei bostio ar 12 Hydref 2018

Rhianedd Jewell
Astudiaeth o waith Saunders Lewis yn ennill Gwobr Syr Ellis Griffith Prifysgol Cymru.
Darlithwraig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw enillydd Gwobr Syr Ellis Griffith Prifysgol Cymru eleni.
Dyfarnwyd y wobr i Dr Rhianedd Jewell gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru, am ei hastudiaeth o waith cyfieithu’r dramodydd arobryn Saunders Lewis.
Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y gwaith gorau yn Gymraeg ar lenorion Cymraeg neu ar eu gweithiau, neu ar arlunwyr neu grefftwyr Cymreig neu eu gweithiau hwy. Daw’r Wobr o Gronfa a godwyd yn Sir Fôn ac yn Llundain yn bennaf i beri cofio enw y diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis Griffith MA KC PC (1860-1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn. Mae enillwyr y wobr, sy’n cynnwys gwobr arinnol o £200 ynghyd a llyfrau gwerth £50, yn cynnwys Yr Athro D. Densil Morgan am ei gyfrol Dawn Dweud: Lewis Edwards, Rhiannon Marks am ei golwg ar waith Menna Elfyn, Yr Athro Emeritws Ceri W Lewis am ei waith Iolo Morgannwg a A. Cynfael Lake am y gyfrol Gwaith Hywel Dafi.
Her a Hawl Cyfieithau Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moliere, yw’r astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri’r ddrama, sef Saunders Lewis. Mae ei gyfieithiadau o weithiau’r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Moliere yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na fel cyfieithydd.
Ystyrir yma hanes cyfieithu ac addasu yn y theatr Gymraeg a’r modd y maent wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg; edrychir hefyd ar bwysigrwydd Ewrop, a Ffrainc yn benodol, i Saunders ac arwyddocâd hyn fel sail i’w waith cyfieithu. Trafodir y modd y mae ei ddulliau cyfieithu yn adlewyrchu ei ddatblygiadau personol a phroffesiynol dros gyfnod o ddeugain mlynedd, a beth yw rôl y cyfieithydd ym myd y theatr - pa hawl sydd gan gyfieithydd i addasu darn llenyddol, er enghraifft, a ble mae gosod ffin rhwng cyfieithu, addasu a chreu testun newydd, ac i ba raddau felly y mae i’r cyfieithiad newydd werth celfyddydol gwreiddiol ynddi ei hun.
Meddai’r Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, “Roedd y tri beirniad yn unfryd eu barn fod y gyfrol gyfoethog hon yn llwyr deilyngu’r wobr. Hon yw’r astudiaeth gyflawn gyntaf o waith cyfieithu Saunders Lewis, ac mae’n taflu goleuni newydd ar ei ddatblygiad fel llenor ac ar ei ddyled i’r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Moliere. Mae cyfieithu i’r theatr yn grefft neilltuol, ac felly mae’r gyfrol hefyd yn gyfraniad pwysig i faes astudiaethau cyfieithu yn y Gymraeg.”
Meddai Rhianedd: "Mae hi'n fraint arbennig ac annisgwyl derbyn Gwobr Goffa Syr Ellis Griffith am fy nghyfrol gyntaf. Mae'r prosiect hwn yn golygu llawer imi, ac felly rwy'n hynod o ddiolchgar i Brifysgol Cymru am roi cydnabyddiaeth i'w werth ac am roi sylw arbennig i faes astudiaethau cyfieithu."
Daw Rhianedd Jewell yn wreiddiol o Ystrad Mynach ger Caerffili. Astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg yng Ngholeg St Anne, Prifysgol Rhydychen cyn parhau gyda graddau MSt a DPhil ym maes Llenyddiaeth Eidaleg yno. Pwnc ei doethuriaeth oedd iaith a hunaniaeth yng ngwaith yr awdures Sardeg, Grazia Deledda. Wrth gwblhau ei doethuriaeth gweithiodd Rhianedd hefyd fel Lector Celtaidd Prifysgol Rhydychen. Symudodd wedyn i Brifysgol Abertawe i weithio fel Darlithydd yn y Gymraeg cyn dechrau ei swydd gyfredol gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Darlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol yw Rhianedd erbyn hyn, lle mae hi'n gwneud defnydd o'i harbenigedd ym maes astudiaethau cyfieithu ar y cwrs arloesol hwn. Yn 2013 enillodd Gwobr Goffa Saunders Lewis i gyllido'r gyfrol, Her a Hawl Cyfieithu Dramâu: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Molière, ac yn 2016 cyflwynwyd Ysgoloriaeth Burgen iddi gan Academia Europea am y gwaith hwn hefyd. Ym mis Mai eleni enillodd Rhianedd hefyd Fedal Dillwyn y Celfyddydau Creadigol a'r Dyniaethau gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru am ei gwaith ymchwil ym maes astudiaethau cyfieithu.