Gwasg Prifysgol Cymru

Wedi ei bostio ar 25 Chwefror 2019
9781786833433

Gwasg Prifysgol Cymru

Y mis hwn o Wasg Prifysgol Cymru, Arthur in the Celtic Languages: The Arthurian Legend in Celtic Literatures and Traditions a olygwyd gan Ceridwen Lloyd-Morgan ac Erich Poppe yw’r arolwg awdurdodol cynhwysfawr cyntaf o lenyddiaeth a thraddodiadau Arthuraidd yn ieithoedd Celtaidd y Gymraeg, Cernyweg, Llydaweg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban. Gyda chyfraniadau gan arbenigwyr blaenllaw a newydd yn y maes, mae’r gyfrol yn olrhain datblygiad y chwedlau a dyfodd o gwmpas Arthur ac sydd wedi’u hail-lunio a’u haddasu’n barhaus o’r Oesoedd Canol hyd at yr ugeinfed ganrif. Gallwch brynu copi ar ein gwefan- https://www.uwp.co.uk/cy/book/arthur-in-the-celtic-languages-hardback/

Yn ogystal, mae Rhiannon Ifans yn cyflwyno ei chyfrol newydd, Red Hearts and Roses? Welsh Valentine Songs and Poems yn ein blog diweddaraf sydd i’w weld yma-   https://www.uwp.co.uk/author-blog-red-hearts-and-roses/

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau