Wedi ei bostio ar 7 Chwefror 2020

Gwasg Prifysgol Cymru- mis Chwefror
Y mis hwn o Wasg Prifysgol Cymru, Fight and Flight: Essays on Ron Berry yw’r casgliad cyntaf o ysgrifau ar Berry, sy’n ymateb amserol i’w ganmlwyddiant arfaethedig.
Mae’r casgliad yn cymryd golwg lythrennol, ffisegol a chronolegol, o’r manwl i’r eang – o’r dyn ei hun i’r daearyddiaethau a’r cymunedau personol a llenyddol y’i gosodwyd ynddynt, i’w waddol creadigol.
Ewch i’n gwefan i brynu copi https://www.uwp.co.uk/book/fight-and-flight/. Yn ogystal, ceir cyflwyniad gan Jen Wilson i’w chyfrol, Freedom Music: Wales, Emancipation and Jazz 1850-1950 y gallwch ei ddarllen ar y wefan.