Wedi ei bostio ar 20 Ebrill 2010

y Pianydd, Vanessa Latarche
Mae Cystadleuaeth Cerddor Ifanc Gregynog wedi cyhoeddi yn ddiweddar y 14 o gerddorion sydd wedi eu dethol i gystadlu yn y rownd derfynol ar Ddydd Sadwrn, Ebrill 24 ac mae wyth ohonynt yn Gymry. Bydd y delynores, Rhiannon Pugh, o Ddolgellau; y pianydd, Michael Vasmer o Ruthin; y feiolinydd o Lanishien, Charlie Lovell-Jones; y pianydd o Sir Fôn, Jams Coleman; y telynor, Tomas Xerri o Bentrepoeth; y ffliwtydd, Chloe Angharad Bradshaw o Hengoed; y pianydd o Aberaeron, Heledd Mair Griffiths a'r chwaraewr utgorn bariton o Gasnewydd, Jack Lapthorn, oll yn cystadlu am y wobr gyntaf.
Dyma gystadleuaeth sydd erbyn hyn yn cael ei hadnabod fel un o ddigwyddiadau allweddol y calendr cerdd yn y DU. Ym mis Chwefror cyflwynodd nifer o gerddorion ifainc eu ceisiadau i fod yn ran o'r gystadleuaeth i'r panel o feirniaid nodedig sef y pianydd Vanessa Latarche; y soddgrythores, Louise Hopkins a'r oböydd, David Theodore. Bydd y pedwar gorau yna'n cystadlu yn y gyngerdd gyda'r nos a bydd y gwobrau yn cael eu cyflwyno iddynt ar ddiwedd y noson.
Mae'r cerddorion eleni unwaith eto yn cynrychioli ystod eang o offerynnau ac yn dod o bob cwr o'r DU yn cynnwys Llundain, Gogledd Lloegr a sawl rhan o Gymru.
Mae £1,000 yn y fantol a chwpan Peter Garbett-Edwards i'r buddugol. Bydd enillydd yr ail wobr yn cipio £500; y trydydd yn ennill £250 a'r pedwerydd yn ennill £100.
Plas godigog Neuadd Gregynog ger y Drenewydd fydd yn leoliad i'r gystadleuaeth. Yng nghalon hanes, celfyddydau a gwleidyddiaeth Cymru, bu Gregynog yn gartref i deulu enwog Davies, Llandinam gyda thraddodiad cryf o gynnal digwyddiadau cerddorol o safon. Bellach yn adeilad hanesyddol swyddogol, mae Gregynog yn safle cynadledda a reolwyd gan Brifysgol Cymru ac mae cerddoriaeth yn dal i atseinio drwy'r neuadd fawr.
Mae'r digwyddiad yn agor am 7 yr hwyr ac yn agored i'r cyhoedd gyda thocynnau yn £12.50 sydd yn cynnwys gwin a lluniaeth ysgafn. Gallwch archebu'ch tocynnau drwy gysylltu gyda swyddfa docynnau Gregynog ar 01686 650224. Mae swper a baratowyd gan Gogydd newydd a thalentog y Neuadd hefyd ar gael am £15 y pen.
/Diwedd
Am fwy o fanylion am y gystadleuaeth cysylltwch â: Julie Turner: 01686 610 544 neu ebostiwch: julie@turners4.freeserve.co.uk
Am wybodaeth am Neuadd Gregynog ac am Brifysgol Cymru: www.cymru.ac.uk/gregynog