IOLO YN AGOR LLYN Y LILI YN NEUADD GREGYNOG

Wedi ei bostio ar 30 Tachwedd 2010
Ioloinboat

Llyn Lili Gregynog

Yr wythnos ddiwethaf, daeth y darlledwr bywyd gwyllt poblogaidd Iolo Williams i Neuadd Gregynog i agor y llyn lili sydd newydd ei adnewyddu. Byddai’r lleoliad yn ysbrydoliaeth i’r chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies wrth baentio.

Roedd y prosiect adnewyddu yn cynnwys clirio tyfiant o’r llyn, gosod pedair pont gan ddilyn cynlluniau gwreiddiol y chwiorydd, a gosod model o Neuadd Gregynog, a elwir y “Neuadd Gwacio” ar ynys fach at ddefnydd hwyaid gwyllt.

“Byddai Margaret a Gwendoline Davies yn arfer dod i’r hafdy bach ger y llyn i baentio, ac rwyf i’n credu fy mod i’n gwybod pam,” esboniodd Karen Armstrong, cyfarwyddwr Neuadd Gregynog .

“Os ewch chi yno yn gynnar gyda’r nos, mae’r golau dros y llyn yn rhyfeddol. Gallech chi ddweud mai dyma fersiwn y chwiorydd o ‘Lili’r dŵr’ gan Monet.

“Dyw’r llyn ddim wedi bod ar ei orau ers tro gan fod gymaint o dyfiant drosto. Nawr mae’n lle hynod o ddeniadol i ymweld ag e ac mae ein saer talentog David Jones wedi cyflawni gwyrthiau wrth greu’r pontydd a’r Neuadd Gwacio, gyda chymorth gwirfoddolwyr.”

Cafodd Neuadd Gregynog ei chymynroddi i Brifysgol Cymru hanner can mlynedd yn ôl gan y diweddar Margaret Davies. Roedd hi a’i chwaer yn wyresau i’r diwydiannwr o Oes Fictoria David Davies o Landinam, a wnaeth ffortiwn o’r diwydiant glo, y rheilffyrdd ac adeiladu dociau y Barri.

Gadawodd Davies £500,000 yr un i Gwendoline a Margaret, oedd yn fodd iddynt ddod yn gasglwyr celf brwd o 1908 ymlaen.

Erbyn 1924, roedd y ddwy wedi cronni’r casgliad mwyaf o weithiau’r Argraffiadwyr a’r Ôl-Argraffiadwyr Ffrengig ym Mhrydain. Rhwng 1951 a 1963 cymynroddodd y chwiorydd 260 o weithiau i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, gan drawsnewid y casgliad celf gyda gweithiau megis Menyw Las enwog Renoir, Cathedral Rouen o waith Monet a’r Gusan gan Rodin.

/Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i : www.cymru.ac.uk
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau