Gregynog yn Cyhoeddi Digwyddiadau'r Nadolig

Wedi ei bostio ar 16 Rhagfyr 2011
Gregynog Christmas Carol

Mae’n bleser gan Neuadd Gregynog Prifysgol Cymru gyhoeddi y bydd yn cynnal dau gynhyrchiad tymhorol newydd dros gyfnod y Nadolig.

Caiff y ddau gynhyrchiad sydd wedi’u haddasu i’r llwyfan gan gwmni Theatr Chapterhouse, sef A Christmas Carol gan Charles Dickens a Cranford at Christmas gan Elizabeth Gaskell, eu perfformio yng Ngregynog ar 18 Rhagfyr (3pm) a 19 Rhagfyr (7.30pm), yn eu tro.

Gyda gwisgoedd cyfnod urddasol, canu, dawnsio a sgôr wedi’i chyfansoddi gan Gynhyrchydd Chapterhouse, Richard Main, mae A Christmas Carol yn cynnig egwyl hyfryd yng nghanol prysurdeb y Nadolig.

Drama lwyfan newydd wedi’i hysbrydoli gan straeon Cranford Elizabeth Gaskell yw Cranford at Christmas, yn cyfuno cyffro’r ŵyl â thangnefedd canol gaeaf cefn gwlad Lloegr, ac mae hefyd yn addas ar gyfer y rhuthr cyn y Nadolig.

Addaswyd y ddau waith i’r llwyfan gan yr awdur ifanc Laura Turner.

Rhwng 17 a 18 Rhagfyr, bydd plant yn cael crwydro drwy goetir Gregynog i ymweld â groto Siôn Corn a’i gynorthwywyr, lle bydd anrheg fach i bob un.


/Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Gregynog, ewch i www.gregynog.cymru.ac.uk, neu i gael gwybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch i www.cymru.ac.uk  

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk  

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau