Gregynog i ymddangos ar raglen deledu'Most Haunted'

Wedi ei bostio ar 30 Mehefin 2010
horsereception3

Ysbryd yng Ngregynog?

Mae nhw’n codi bwganod yng Nhrecynon yr wythnos hon gan fod Neuadd Gregynog Prifysgol Cymru yn mynd i ymddangos yn rhaglen arbennig o ‘Most Haunted’ ar sianel deledu Living heno, (nos Fercher, Mehefin 30).

Mae staff wedi adrodd hanesion ysbrydion Gregynog ers degawdau, ac oherwydd diddordeb y cyhoedd yn y thema, penderfynodd Cyfarwyddwr newydd y neuadd, Karen Armstrong, agor y drysau i griw ‘Most Haunted’.

Bu criw ‘Paranormal Canolbarth Cymru’ hefyd yn edrych ar ysbrydion Gregynog ac maent yn sicr bod y neuadd yn le sy’n denu bwganod. Mae tystiolaeth gweledol bod yna olau rhyfedd yn ymddangos yn y neuadd a nifer o ysbrydion yn crwydo’r coridorau fin nos. Yn eu plith y ‘dyn mewn du’, o’r enw William sydd â chi bach yn gyfaill; gweinyddes mewn iwnifform o gyfnod y Chwiorydd Davies (1882-1962) a nyrs o’r Groes Goch o gyfnod yr Ail Ryfel Byd pan oedd y neuadd yn gartref i filwyr claf, sy’n ymddangos sy’n crwydo llawr uchaf y Neuadd, lle dywedir eu bod wedi syrthio i’w marwolaeth yn y 1940gau.

Wrth gwrs, gellid ddadlau fod yna esboniad rhesymol i hyn oll ac er bod Cyfarwyddwr Gregynog, Karen Armstrong, yn amau bodolaeth ysbrydion ei hun, nid yw hi’n gallu esbonio rhai o’r pethau rhyfedd sydd wedi digwydd yng Ngregynog megis batris newydd yn methu gweithio o fewn y Neuadd. Dywedodd:

“Mae llawer o’r staff wedi gweithio yma ers gyfnod hir ac mae nhw’n parhau i adrodd yr un straeon am yr ysbrydion maent yn gweld fin nos. Fodd bynnag, mae adroddiadau diweddar fod y Chwiorydd Davies yn dal i grwydro’r coridorau yn amheus iawn!”

Gallwch benderfynu dros eich hun trwy wylio’r episod am Gregynog heno ar raglen deledu ‘Most Haunted’ Teledu Living am 10 yh. Ond peidiwch â gwylio ar eich pen eich hun, rhag ofn!

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Am fwy o wybodaeth am Neuadd Gregynog a Phrifysgol Cymru, ewch i’r wefan: www.cymru.ac.uk

Am wybodaeth y wasg a’r cyfryngau, cysylltwch gyda Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru, Tom Barrett: t.barrett@cymru.ac.uk



Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau