Neuadd Gregynog yn cyflwyno Cwrw Brag Blayney

Wedi ei bostio ar 24 Mawrth 2010
BlayneysBrew12

o'r chwith i'r dde: Karen Armstrong a Pam Honeyman

Bydd cwrw newydd a enwyd ar ôl Arthur Blayney, yr hen lanc o sgweier oedd yn berchen ar Gregynog yn y ddeunawfed ganrif, yn mynd ar werth yn Neuadd Gregynog,Tregynon ger y Drenewydd wrth i gaffi a siop newydd agor yng nghwrt y plas dros y Pasg.

Datblygwyd Cwrw Brag Blayney gan y bragwr Pam Honeyman, perchennog Bragdy Monty’s yn Nhrefaldwyn, yn dilyn trafodaethau â Phrifysgol Cymru a rheolwr Neuadd Gregynog, Karen Armstrong.

Bydd y cwrw ar werth yn y bar, y caffi a siop newydd y cwrt yn Neuadd Gregynog, sef canolfan gynadledda, digwyddiadau ac astudio hanesyddol a hardd y brifysgol.

“Rydym ni wrth ein bodd y bydd Cwrw Brag Blaeney wedi’i fragu’n arbennig i Neuadd Gregynog erbyn y Pasg,” meddai Miss Armstrong. “Rydym ni wedi penderfynu cynnig dewis lleol yn lle rhai o’r enwau mwy cyfarwydd, i rhoi gwir flas o’r ardal i ymwelwyr.

“Ysbrydolwyd Cwrw Brag Blayney gan y cerfiadau derw o’r 17eg ganrif yn Ystafell Blayney yn Neuadd Gregynog ac fel teyrnged i Arthur Blayney, sgweier Gregynog, a fu farw ym 1795.”

Dywedodd Mrs Honeyman ei bod wrth ei bodd i gael datblygu Cwrw Brag Blayney i Neuadd Gregynog a disgrifiodd y cwrw fel “euraidd iawn gyda blas hopys, citrws, ac ôl-flas hir, chwerw.”

A hithau ond wedi dechrau bragu cwrw ym mis Ionawr y llynedd, mae eisoes wedi ennill gwobrau Cwrw Gaeaf Cymru a Gŵyl Gwrw Darlington Spring Thing. Ar hyn o bryd mae’n bragu pum cwrw rheolaidd a thri chwrw tymhorol gan werthu 90 o gasgenni 9 galwyn yr wythnos ar gyfartaledd.

Roedd Arthur Blayney, a ddisgrifiwyd fel gŵr diymhongar, yn enwog am ei letygarwch a’i haelioni a hefyd yn adnabyddus am ei welliannau amaethyddol.

“Yn ystod ei gyfnod yng Ngregynog, doedd y tŷ ddim yn grand ond yn gyfforddus, gydag ymwelwyr o bob ystad yn cael croeso wrth y bwrdd a fyddai’n gyforiog o gynhyrchion lleol yn hytrach na moethau drudfawr, ar wahân i’r gwin port, oedd yn rhoi pleser rhyfeddol iddo mewn ffordd nodweddiadol o’r 18fed ganrif,” meddai Miss Armstrong.

“Roedd yn trin ei denantiaid fel cyfeillion gan wneud ei orau i’w helpu i wella eu tiroedd. Yn wir ni chododd y rhent o gwbl am 40 o flynyddoedd a gadawodd bum gini i bob un o’i weision yn ei ewyllys. Un o’r pethau anwylaf a adawodd ar ei ôl yw’r nodyn gyda chyfarwyddiadau ei angladd, oedd i fod mor blaen, tawel a chynnar yn y bore â phosibl.”

Mae’r cerfiadau herodrol cain yn Ystafell Blayney yng Ngregynog yn dyddio o1636 pan gawsant eu comisiynu gan ŵyr David Lloyd Blayney, John.

Credwyd ar un amser fod y cerfiadau wedi’u llunio gan grefftwyr teithiol Fflemaidd, ond gan fod Ysgol bwysig o gerfwyr wedi’i lleoli yn y Drenewydd tua diwedd yr Oesoedd Canol doedd hi ddim yn amhosibl eu bod hwythau wedi trosglwyddo eu sgiliau i’w disgynyddion, a allai fod wedi bod â rhan yn y gwaith.

Mae’r cerfweddau’n dangos arfbeisiau’r tywysogion a’r pendefigion Cymreig yr honnai’r teulu Blayney eu bod yn ddisgynyddion iddynt, yn estyn yn ôl i’r dyddiau cynnar hynny lle’r oedd chwedl a hanes yn cydblethu.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth i’r wasg cysyllter naill ai â Karen Armstrong, Rheolwr Neuadd Gregynog ar 01686 650224 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.

I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Gregynog a Phrifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori