Derw Gregynog ar restr fer Coeden y Flwyddyn

Wedi ei bostio ar 26 Medi 2016
Gregynog Oak by Liz Fleming Williams

Derwen Gregynog. Llun: Liz Fleming Williams

Mae 28 o goed gorau’r DU wedi’u datgelu gan yr Ymddiriedolaeth Coedwigoedd wrth iddi chwilio am Goeden y Flwyddyn. 

Ar ôl derbyn 200 o enwebiadau gan y cyhoedd crëwyd rhestr fer gan banel o arbenigwyr ym mhob gwlad ar sail stori’r enwebeion, sut y bydden nhw’n defnyddio grant gofal ac apêl weledol y goeden; dewiswyd 10 coeden yn Lloegr a chwech yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Ymhlith y coed sy’n cystadlu am deitl Cymru mae Derwen Gregynog ar dir Neuadd Gregynog, y tŷ a’r ystâd wledig a gymynroddwyd i Brifysgol Cymru gan y chwiorydd Davies o Landinam yn 1960. Y dderwen wych hon, sydd wedi ei thocio, gyda chylchfesur o dros 6m yw'r goeden fwyaf ar ystâd Neuadd Gregynog a ddynodwyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol yn 2013, sef y tir mwyaf diweddar ei gael ei dynodi felly. Mae hyn yn cadarnhau’r safle fel un o rai pwysicaf Cymru ar gyfer parcdir hynafol a chynefinoedd porfa goediog, gyda hen goed a chen sy'n bwysig ar lefel genedlaethol, trychfilod a bywyd gwyllt arall sy’n dibynnu ar y cynefinoedd prin hyn. Er bod oed coed hynafol yn anodd ei amcangyfrif, credir y gall y goeden hon fod wedi egino o fesen yn ystod teyrnasiad Harri VIII.

Mae Derwen Gregynog yn ymuno â phum coeden arall ar restr fer Cymru gan gynnwys Derwen Brimmon, Y Drenewydd, derwen wyrdroëdig sy’n sefyll ar ei phen ei hun yn ystad Hafod y Llan yn Eryri, a Chastanwydd bêr Gerddi Bodnant, Conwy, un o’r coed hynaf yn yr ardd Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac a oedd yno pan ddyluniwyd yr ystad yn y cyfnod Sioraidd yn 18fed ganrif. Y ddwy goeden olaf yw Derwen y Castell yng Nghastell Dinefwr ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin, y credir ei bod rhwng 800 a 850 o flynyddoedd oed, a Derwen Hynafol Cwm yr Esgob, ger Rhaeadr Gwy, un o’r mwyaf ac efallai'r hynaf o'r coed ym mhorfa goediog hynafol Cwm yr Esgob, Carngafallt.

Fe aiff y goeden fuddugol ym mhob gwlad ymlaen i gynrychioli’r genedl honno yng Nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Bydd y goeden fuddugol ym mhob gwlad yn derbyn grant ‘Coeden LC’ o £1,000, a bydd unrhyw goeden sydd â thros 1000 o bleidleisiau’n derbyn £500, y gellir ei ddefnyddio i drefnu gwiriad iechyd, darparu deunyddiau addysgol neu gynnal digwyddiad dathlu. Mae’r bleidlais yn cau am 5pm ar 9 Hydref.

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth Coedwigoedd yn 1972, a hi yw elusen cadwraeth coedwigoedd fwyaf y DU. Nod yr ymddiriedolaeth yw diogelu ac adfer coedwigoedd hynafol, a phlannu coed brodorol gyda’r bwriad o greu tirweddau gwydn i bobl a bywyd gwyllt.

Wrth sôn am bwysigrwydd y dyfarniad blynyddol, dywedodd Beccy Speight, prif weithredwr yr Ymddiriedolaeth Coedwigoedd:

“Mae’r coed hyn wedi sefyll am gannoedd, os nad miloedd o flynyddoedd a bydd gan bob un le arbennig ym mywydau pobl. Drwy ddathlu ac atgoffa pobl am eu gwerth ein gobaith yw cefnogi a dylanwadu ar y rheini a all sicrhau eu bod yn parhau i ffynnu am genedlaethau.”

I weld y rhestrau byr ac i bleidleisio dros eich hoff goeden ewch i www.woodlandtrust.org.uk/visiting-woods/coeden-y-flwyddyn/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau