Disgyblion ar eu tyfiant â bysedd gwyrdd yng Ngregynog

Wedi ei bostio ar 1 Tachwedd 2010
greenfingers

Disgyblion Ysgol Rhiw Bechan

Rhoddwyd cyfle i blant Ysgol Rhiw Bechan yn Nhregynon wneud defnydd o’u bysedd gwyrdd yn ddiweddar wrth helpu i blannu 20,000 o fylbiau yn Neuadd Gregynog Prifysgol Cymru.

Ymunodd y plant â rheolwr ystâd Neuadd Gregynog, Steve Griffiths a’i dîm o arddwyr am y diwrnod, i helpu â’r gwaith o adfer gerddi rhestredig Gradd 1 y Neuadd a pharatoi ar gyfer arddangosfa flodau a gynhelir yn ystod y gwanwyn a’r haf y flwyddyn nesaf.

Mae’r bylbiau’n cynnwys cennin pedr, tiwlipau ac amrywiaethau traddodiadol Cymreig, gyda threfniadau coch, gwyrdd a gwyn. Mae’r rhaglen blannu hefyd yn cynnwys 400 o rosod Saesnig o David Austin Roses yn Albrighton, a gaiff eu plannu rhwng bysedd y gwrych ywen ac mewn gwely blodau hirgrwn sydd wedi’i adnewyddu ar y lawnt croquet.

Bu disgyblion blwyddyn pump a chwech o Ysgol Rhiw Bechan yn cynorthwyo Mr Griffiths a Michael Murray - arbenigwr o David Austin Roses - i gynllunio’r gwelyau rhosod. Aeth disgyblion blwyddyn tri a phedwar ati i gynllunio llwybrau draig yn ogystal ag ardal chwarae.

Dywedodd Alun Thomas, Pennaeth Ysgol Rhiw Bechan:

“Mae’r rhain yn brosiectau cyffrous iawn ac mae’r plant ar eu helw yn fawr. Dysgu drwy fwynhau yw hyn yn wir.

“Mae credu eu bod yn mynd i wneud gwahaniaeth i’r gerddi yng Ngregynog yn rhywbeth arbennig iawn iddyn nhw. Gobeithio y bydd y prosiectau hyn yn creu cyswllt â Gregynog a fydd yn para drwy eu hoes.”

Hwyluswyd y gwaith o adfer y gerddi pan ddarganfuwyd hen ddogfennau a chynlluniau oedd yn dangos ymhle roedd y gwelyau rhosod gwreiddiol wedi’u gosod.

Yn gynharach eleni, darlledwyd dau rifyn o Gardeners' Question Time ar BBC Radio 4 o Neuadd Gregynog .

Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd 26 garddwr yn gweithio yng Ngregynog. Yn ddiweddar disgrifiwyd y gerddi gan CADW fel ‘un o’r gerddi a’r parciau pwysicaf ym Mhowys, yn dyddio o 1500 o leiaf’.

Dywedodd Cyfarwyddwr Neuadd Gregynog, Karen Armstrong:

“Mae’n hyfryd cael plant ysgol gynradd y pentref yn rhan o’r prosiect plannu mawr hwn. Mae Neuadd Gregynog yn lle syfrdanol o brydferth i ymweld ag e yn barod, ond mae ganddo’r potensial i fod yn un o’r gerddi a’r arboretums gorau yng Nghymru.”

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Gregynog ewch i: www.gregynog.cymru.ac.uk
neu Brifysgol Cymru www.cymru.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch naill ai â Karen Armstrong, Cyfarwyddwr Neuadd Gregynog, ar 01686 650224 neu i gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau