Wedi ei bostio ar 22 Awst 2012
Gyda chymorth Academi Fyd-Eang PC, mae cwmnïau diwydiannau creadigol o Gymru yn cael cyfle i arddangos eu technolegau i gwmnïau ffilm ac adloniant mawr yn Hollywood mewn digwyddiad Arloesi mewn Adloniant yn Stiwdios Sony, Los Angeles fis nesaf.
Gyda Llywodraeth Cymru’n darparu cymorth masnach tramor i helpu cwmnïau i fynd, cynhadledd a digwyddiad rhwydweithio yw Arloesi mewn Adloniant, yn canolbwyntio ar y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg adloniant a’r cyfryngau, wedi’i drefnu gan y Grŵp Arweinyddiaeth Technoleg Gwyddelig.
Mae gan yr Academi Fyd-Eang berthynas gref â’r Grŵp Arweinyddiaeth Technoleg Gwyddelig (ITLG), sydd wedi gweithio gyda thros 200 o gwmnïau yn datblygu cysylltiadau â chwmnïau yn Nyffryn Silicon a buddsoddwyr.
Wrth sôn am y digwyddiad dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart:
”Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau arloesol yn y sector diwydiannau creadigol yng Nghymru hyrwyddo eu gwasanaethau i bobl hynod o ddylanwadol yn Hollywood. Rwyf i’n croesawu cymorth yr Academi Fyd-Eang a’r Grŵp Arweinyddiaeth Technoleg Gwyddelig ac rwyf i’n falch i gynnig cymorth cyllido i alluogi busnesau Cymru i fanteisio ar y cyfle hwn.”
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Medwin Hughes:
“Mae Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru’n falch i hwyluso’r ymweliad hwn ac rwyf i wrth fy modd ei fod yn cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r ymweliad yn dangos pwysigrwydd gweithio ar y cyd i gefnogi masnach busnesau Cymru’n rhyngwladol gyda’r potensial i fod er budd economi Cymru’n ehangach.”
Ymhlith y rhai fydd yn bresennol fydd ffigurau uchel eu proffil o’r diwydiannau ffilm, effeithiau digidol, animeiddio, cyfryngau, symudol, gemau, cyfalaf menter a thechnoleg. Bydd y swyddogion yno yn cynrychioli rhai o brif gwmnïau adloniant y byd gan gynnwys HBO, Warner Brothers, Sony a DreamWorks.
Wrth sôn am y cyfleoedd y mae’r digwyddiad hwn yn eu cynnig i gwmnïau o Gymru, dywedodd Richard Turner o’r Academi Fyd-Eang:
“Mae’r ffaith fod rhwydwaith ITLC a’u rhaglen o ddigwyddiadau bellach ar agor i gwmnïau o Gymru yn creu cyfleoedd rhagorol i Gymru wneud busnes gydag Arfordir Gorllewinol UDA - yn arbennig Dyffryn Silicon a Hollywood - canolfannau byd-eang arloesi yn sectorau’r diwydiannau creadigol a technoleg TGCh”.
/Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth ewch i Wefan Llywodraeth Cymru