MIT a Phrifysgol Cymru yn creu partneriaeth i ddatblygu ymchwil ac addysg seiber-ddiogelwch

Wedi ei bostio ar 28 Mawrth 2011
cybersecurity

Yr Atrho John Williams, Yr Athro Marc Clement, Hugh Thomas

Heddiw llofnododd Prifysgol Cymru gytundeb â’r Ganolfan Ddata Geo-ofodol (GDC) yn Isadran System Peirianneg Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu datrysiadau ar gyfer ymchwil ac addysg seiber ddiogelwch.

Y cytundeb yw un o brif ganlyniadau uwchgynhadledd bwysig o academyddion blaenllaw o rai o brif brifysgolion y byd a gynhaliwyd yn ninas Caerdydd yr wythnos hon i drafod materion allweddol yn y maes hynod bwysig hwn sy’n tyfu’n gynyddol.

Cyfarfu athrawon prifysgol o sefydliadau megis MIT, Prifysgol Harvard, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Memphis, Prifysgol Boston a Phrifysgol Canolbarth Fflorida yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru i gynnal yr uwchgynhadledd gyntaf erioed ar y gadwyn gyflenwi seiber-ffisegol geo-ofodol, a drefnwyd gan Brifysgol Cymru.

Yn ymuno â nhw yno roedd cynrychiolwyr o’r Cenhedloedd Unedig, Adran Amddiffyn yr UDA, Northrop Grummann, Microsoft, IBM a Sonalysts.

Dywedodd yr Athro John Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Ddata Geo-ofodol MIT: “Mae hon wedi bod yn uwchgynhadledd hynod o lwyddiannus. Mae’r cynrychiolwyr i gyd wrth eu bodd â’r croeso cynnes a gafwyd yng Nghaerdydd a chan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Llundain.

“Caiff diogelwch seiber-ffisegol bellach ei ystyried fel y bygythiad pennaf i ddiogelwch cenedlaethol, ac yn fwy o berygl nag ymosodiadau niwclear confensiynol. Y llynedd yn unig, cofnododd yr UDA dros 300,000 o ymosodiadau firws ar eu rhwydweithiau a nodwyd bod troseddwyr trefnedig yn gwneud mwy o arian o droseddau seiber nag unrhyw weithgaredd arall.

"Casgliad y gynhadledd oedd bod angen tîm amlddisgyblaethol i fynd i’r afael â phroblemau seiber-ddiogelwch ac y byddai’n rhaid i’r DU a’r UDA gynhyrchu miloedd o arbenigwyr yn y maes dros y blynyddoedd nesaf. Dyna pam fod y Ganolfan Ddata Geo-ofodol yn MIT a Phrifysgol Cymru wedi llofnodi cytundeb i ddatblygu datrysiadau ar gyfer arweinyddiaeth a hyfforddiant diogelwch seiber ar y cyd, cytundeb a fydd yn gosod Cymru ar y blaen o ran datblygiadau yn y maes hwn.”

Trefnwyd yr uwchgynhadledd gan Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru a Chanolfan Ddata Geo-ofodol MIT, a thrafodwyd agweddau penodol o’r bygythiad seiber-ddiogelwch, gan gynnwys diogelwch amgylcheddol, rheoli’r gadwyn gyflenwi a chyfrifiadura perfformiad uchel.

Mae’r Athro Marc Clement, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yn credu bod cynnal y digwyddiad unigryw ac arloesol hwn yn gamp arbennig i Gymru.

"Mae Prifysgol Cymru wrth ei bodd yn cynnal y gynhadledd bwysig hon mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn MIT,” meddai. “Rhan o genhadaeth yr Academi Fyd-Eang yw dod â’r gorau o’r Byd i Gymru, ac rydym ni wedi mwynhau digwyddiad gwych dros y deuddydd diwethaf a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r drafodaeth ar bwysigrwydd cynyddol seiber ddiogelwch ym mhob agwedd o’n bywydau.

“Rydym ni’n gobeithio gweithio’n agos â llawer o’r academyddion sy’n cyfrannu i symud yr agenda a ddynodwyd gan yr uwchgynhadledd hon yn ei flaen a datblygu perthynas MIT a Phrifysgol Cymru gan ein bod ni nawr yn bwriadu datblygu rhaglen hyfforddi ar y cyd i symud datblygiadau addysgol ym maes diogelwch seiber-ffisegol, maes y cytunodd yr uwchgynhadledd oedd yn fater hynod o bwysig i lywodraethau, busnes a phrifysgolion".

Yn ogystal â chysylltiadau academaidd, roedd Prifysgol Cymru yn falch i allu dangos y gorau o Gymru i’r cynrychiolwyr.

"Hwn oedd ymweliad cyntaf bron pob un o’r academyddion â Chymru” dywedodd yr Athro Jones-Evans, Cyfarwyddwr Menter ac Arloesi Prifysgol Cymru, a fu’n trefnu’r ymweliad ar ran yr Academi Fyd-Eang. “Drwy ddangos ychydig o’r gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, gan gynnwys Clwb 2010 y Celtic Manor, Canolfan Mileniwm Cymru a Chastell Caerdydd, rydym ni’n gobeithio y byddant wedi cael argraff dda o Gymru ac y byddant yn edrych ymlaen at ymweld eto yn y dyfodol wrth i ni ddatblygu’r prosiect hwn ar y cyd.”

Cafodd yr uwchgynhadledd ei ffilmio gan y cyfarwyddwr arobryn yr Athro Thomas Levenson o MIT, a bydd y deunydd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o raglen hyfforddi fyd-eang. Gellir gwneud cais am luniau fideo a ffotograffau.

/Diwedd

Ymholiadau cyfryngau i: Angharad Neagle neu Joanne Hunt ar 02920 545383 neu drwy ebost angharad.neagle@freshwater-uk.com and joanne.hunt@freshwater-uk.com
 
Nodiadau

• Mae maes seiber-ddiogelwch yn datblygu’n fater pwysig i lywodraethau a diwydiant o gwmpas y Byd. Er enghraifft yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Ffederal yr UDA gynlluniau i wario dros $13 biliwn y flwyddyn dros y pum mlynedd nesaf ar warchod ei systemau. Yn y DU mae troseddau seiber yn costio hyd at £27 biliwn i’r economi bob blwyddyn.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau