Anelu at Dwf

Wedi ei bostio ar 23 Mai 2012
DJE-Fast50

Yr Athro Dylan Jones-Evans yn seremoni y llynedd

Mae’r gwaith o chwilio am y cwmnïau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru wedi dechrau. Bellach yn ei bedwaredd flwyddyn ar ddeg, mae Twf Cyflym Cymru 50 yn dathlu’r entrepreneuriaeth Gymreig orau ac mae wedi sefydlu fel y rhestr o lwyddiant busnes y mae busnesau ar draws Cymru yn anelu ati.

Crëwyd y prosiect Twf Cyflym 50 ym 1999 gan yr Athro Dylan Jones-Evans o Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru. Ers hynny, mae 418 o gwmnïau wedi ymddangos ar y rhestrau a gyhoeddir yn y Western Mail ac amcangyfrifir bod y cwmniau twf cyflym hyn wedi creu tua 18,000 o swyddi a chynhyrchu gwerth dros £10 o drosiant ychwanegol, gyda llawer o hwnnw’n cael ei wario ar nwyddau a gwasanaethau lleol.

Lansiwyd prosiect Twf Cyflym 50 2012 yn swyddogol gan Mrs Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Bob blwyddyn, mae Twf Cyflym 50 yn dangos y potensial busnes enfawr sy’n bodoli yma yng Nghymru ac yn arddangos y dalent entrepreneuraidd sydd gennym i’w defnyddio. Yn bwysicach, mewn cyfnod sy’n gweld prinder swyddi ar draws y DU, creodd y cwmnïau a dyfodd gyflymaf y llynedd tua 2,000 o swyddi newydd yn ystod y cyfnod 2008-2010, gan ddangos y cyfraniad y maent yn ei wneud i economi Cymru.

Y cwmni a dyfodd gyflymaf y llynedd oedd Golchdy Afonwen ym Mhwllheli. Sefydlwyd y busnes teuluol hwn ym 1935, a bellach mae’n un o’r golchdai a chwmnïau llogi llieiniau preifat mwyaf yn y DU, gan gyflenwi dros 40,000 o ystafelloedd gwely mewn gwestai drwy’r DU gyfan.

Gan siarad wrth lansio cystadleuaeth eleni, dywedodd ei Reolwr Gyfarwyddwr Mark Woolfenden:

“”Mae wedi bod yn wych i Afonwen gael cydnabyddiaeth fel y cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru a byddwn i’n annog cynifer â phosibl o gwmnïau i ymgeisio. Mae Twf Cyflym Cymru 50 yn cynnig cyfle unigryw i godi proffil eich busnes a symbylu staff i ddathlu eu llwyddiant. Fel enillydd y llynedd a chwmni ddaeth yn agos ati y flwyddyn flaenorol, mae cyfranogi wedi ein galluogi ni i godi ymwybyddiaeth o’n brand yn sylweddol”.

Bydd rhestr 2012 o’r cwmniau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru yn ymddangos mewn atodiad arbennig a gyhoeddir gan y Western Mail ddydd Mercher, 19 Medi 2012 mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru.

Ceir cinio gala hefyd a gynhelir yng Nghaerdydd ar 14 Medi 2012. Mae’r digwyddiad arbennig hwn wedi datblygu’n un o’r rhai mwyaf nodedig yng nghalendr busnes Cymru ac unwaith eto mae’n addo bod yn gyfle i arddangos y gorau o fentrau Cymru.

/Diwedd

Noddir y gwobrau gan Capital Law, Banc Santander, Ysgol Fusnes Casnewydd, Sinclair Finance and Leasing, Venture Wales, Logicalis, Cake Communications a Media Wales, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r cwmniau sy’n tyfu gyflymaf ym mhob un o sectorau allweddol economi Cymru, yn ogystal â gwobrau unigol ar gyfer twf hir dymor cynaliadwy.

Dyddiad cau ymgeisio yw 20 Mehefin 2012. Ceir rhagor o wybodaeth am gymhwyster a sut i gystadlu drwy e-bostio fastgrowth50@wales.ac.uk  neu ymweld â’r wefan www.fastgrowth50.com  neu ymweld â’r wefan

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau