Arloeswyr Byd-eang yn ymgasglu yng Ngregynog

Wedi ei bostio ar 16 Mehefin 2010
residential

Rhaglen Preswyl Academi Byd-Eang

Fel rhan o ddathliadau Wythnos Prifysgolion y DU ac yn dilyn amcanion Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru, trefnwyd cwrs preswyl gyda’r bwriad o geisio uno’r byd academaidd a byd diwydiant i helpu creu dyfodol fwy llewyrchus i economi Cymru.

Daeth academyddion o fri byd-eang, entrepreneuriaid ac ysgolheigion at ei gilydd o bedwar ban byd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Cymru Gregynog, i gael cyfnod dwys o hyfforddi, datblygu a rhwydweithio ar lefel elît.

Cynllun Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (POWIS) Academi Fyd-Eang y Brifysgol oedd yn cynnig y cyfle hwn i dreulio tri diwrnod ar gwrs preswyl dwys rhwng 3 a 5 Mehefin 2010.

Yn wir, nid y planhigion rhododendron oedd yr unig bethau i flodeuo yng Ngregynog wrth i ysgolheigion - o Asia, Affrica, UDA ac Ewrop - fynychu seminarau hyfforddi dwys gan siaradwyr arbenigol. Roedd y seminarau a’r sgyrsiau wedi’u gerio’n benodol at ddatblygu a hyfforddi ysgolheigion POWIS, gan fod o fudd hefyd i’r cwmnïau partner ac academyddion.

Yn benthyg eu harbenigedd ymarferol i’r sesiynau hyn roedd Stephen F. Brown o’r Massachusetts Institute of Technology (MIT), a dynnodd ar ei brofiadau o oresgyn rhwystrau masnacheiddio drwy gefnogaeth arloesi; Paul Birchell o Compass Training and Development â’i ymagwedd arloesol at ddatblygu gweithgareddau wedi’u teilwra i godi amcanion hyfforddi a dirprwyo yn y gweithle a Dr Marcus Heuberger o Awen Cymru Cyf a draddododd sgwrs ar ‘Dod i ddeall Eiddo Deallusol.’

Dywedodd Phillip Harter o’r Almaen, sy’n ysgolhaig PhD POWIS yn gweithio yn Cell Therapy Ltd:

“Roedd rhaglen breswyl POWIS yn brofiad eithriadol. Mae yna lawer o bobl raddedig ddeallus sydd â chefndir academaidd rhagorol ond sydd angen arweiniad a chymorth i drosglwyddo o addysg i fyd busnes. A dyma’r hyn y mae’r Academi Fyd-Eang yn ei wneud mor llwyddiannus.”

Roedd cwmnïau ac academyddion hefyd yn ffocws pwysig i’r rhaglen - mae cyfranogiad ac ymglymiad y ddau faes yn hanfodol i lwyddiant ethos yr Academi Fyd-Eang. Trafodwyd pynciau’n amrywio o Ymchwil a Datblygu Credydau Treth i Gystadleurwydd y Farchnad. Tanlinellodd yr Athro Antti Paasio a’r Athro Pasi Malinen o Brifysgol Turku, y Ffindir, arwyddocâd y berthynas rhwng prifysgolion a diwydiant gan ddefnyddio eu gwlad eu hunain fel astudiaeth achos.

“I mi roedd yr holl ddigwyddiad yn werthfawr iawn ac fel Diwydiannwr mae’n dda gwybod y bydd nifer o arbenigwyr yn dod i mewn i sectorau diwydiannol allweddol yn y dyfodol. Gallaf gadarnhau hefyd y bydd fy nghwmni yn manteisio ar Raglen Cyswllt Diwydiant y Massachusetts Institute of Technology a sefydlwyd fel rhan o POWIS” dywedodd Roderick Thomas, Rheolwr Rhaglen Thermograffeg Canolfan Dechnoleg TWI Cymru.

Yn ogystal â chael ysgolhaig PhD POWIS yn gweithio gyda’u cwmni, mae busnesau sy’n rhan o raglen POWIS hefyd yn cael buddion niferus eraill megis rhaglenni preswyl arloesi ac entrepreneuriaeth Academi Fyd-Eang PC dan arweiniad rhai o feddylwyr mwyaf blaenllaw y byd megis Ysgol Sloan MIT. Mae pob ysgolhaig a chwmni POWIS hefyd yn rhan o rwydwaith arloesi’r Academi Fyd-Eang sy’n darparu aelodaeth ddi-dâl o Raglen Cyswllt Diwydiannol MIT, sy’n adnodd gwerthfawr i fusnesau ac sydd fel arfer yn costio $60k y flwyddyn.

Siaradodd Stephen Brown, Llywydd Innovate4Growth ac uwch academydd yn MIT am werth integreiddio academia â diwydiant ac awgrymodd fod gan bob ysgolhaig POWIS y potensial i fod y Bill Gates neu Steve Jobs nesaf, o gael y lefel briodol o gefnogaeth a gallu busnes. Dywedodd:

“Mae’n gwbl hanfodol ein bod ni’n sbarduno pobl ifanc a meddylwyr arloesol i gymryd y risg i wneud i bethau ddigwydd, oherwydd gall y twf economaidd sy’n dod yn sgil un llwyddiant drawsnewid daearyddiaeth economaidd cenedl gyfan. Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i ymgyrraedd at yr un lefel o gyflawniad. Drwy gael ysgolheigion POWIS at ei gilydd i ddysgu elfennau sylfaenol masnacheiddio, gallant ddechrau rhwydweithio ymysg ei gilydd, ac yna gyda’r byd ehangach.’

Dywedodd Richie Turner, Dirprwy Gyfarwyddwr Rhaglen Arloesi’r Academi Fyd-Eang:

‘Mae cyrsiau preswyl POWIS yn elfen ychwanegol allweddol o raglen POWIS. Ein nod yw darparu’r athrawon a’r hyfforddwyr gorau yn y byd i helpu ein Hysgolheigion, ein cwmnïau a’n hacademyddion i gadw ar y blaen gyda meddwl arloesol ac felly sicrhau bod byd busnes Cymru yn tyfu ac yn ffynnu yn yr economi gwybodaeth byd-eang.’

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:
Mae Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru wedi cynllunio POWIS yn benodol i ddod â’r sector breifat a graddedigion disglair o bob rhan o’r byd at ei gilydd gydag arbenigedd academaidd o Gymru ac yn fyd-eang.

Lansiwyd cynllun POWIS gan EUB Tywysog Cymru yn 2009, ac fe’i hariannir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a thrwy fuddsoddiad gan Brifysgol Cymru ei hun. Mae gan y cynllun gyllideb o £11.4M, sy’n cael ei defnyddio i annog cwmnïau o Gymru i ymgymryd â phrosiectau arloesi ymchwil a datblygu.

I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs preswyl ac am yr Academi Fyd-Eang, ebostiwch: academifyd-eang@cymru.ac.uk neu ewch i: www.globalacademy.org.uk/

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk
 
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@wales.ac.uk
Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau