Wedi ei bostio ar 19 Ionawr 2010

Debbie Garside
Mae Prifysgol Cymru yn falch o gyhoeddi mai deiliaid cyntaf (POWIS) yw Debbie Garside. Dechreuodd Debbie ymchwilio ym mis Tachwedd 2009 gyda chwmni Geolang Ltd o Sir Benfro, sy’n adnabyddus am ei waith arloesol yn darparu gwasanaethau sy’n ymwneud â datrysiadau meddalwedd ac ymchwil geoieithyddol.
Gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, bydd buddsoddiad POWIS yn caniatáu i GeoLang ddatblygu cynhyrchion newydd cyffrous yn ymwneud ag iaith, canfyddiad gweledol dynol a thechnolegau rhyngrwyd.
Rhaglen arloesol werth £11.4m yw POWIS, a chaiff ei rheoli gan raglen y Brifysgol, gan ddod â’r sector breifat ac addysg uwch yng Nghymru at ei gilydd ynghyd â graddedigion ifanc disglair o bob rhan o’r byd.
Y syniad y tu ôl i fenter POWIS, a lansiwyd yn ffurfiol gan EUB Tywysog Cymru yn Nhŷ Clarence y llynedd, yw chwistrellu syniadau ac egni newydd i economi Cymru, gan ddod â’r meddyliau gorau i weithio gyda busnesau i ddatblygu prosiectau arloesol newydd.
Gyda phob ysgoloriaeth werth £100,000, caiff POWIS ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy raglen Cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd, a weinyddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ynghyd â buddsoddiad gan y sector breifat a chyllid Prifysgol Cymru ei hun. Bydd y cynllun yn cyflenwi 100 o raddedigion o ansawdd byd-eang i fusnesau yng Nghymru rhwng 2009 a 2014, gan eu cefnogi drwy raglen sydd ymysg y pecynnau PhD â’r gwerth ariannol gorau drwy’r byd.
Yn ei gwaith fel ysgolhaig PhD POWIS bydd Debbie Garside yn cynnal ymchwil dros dair blynedd gan ddefnyddio cronfa ddata unigryw a grëwyd gan GeoLang Ltd. Crëwyd y gronfa ddata gan y cwmni wrth iddynt ddatblygu’r safon ISO ryngwladol ar gyfer amgodio iaith. Bydd ymchwil Debbie yn creu cod meddalwedd newydd y gall y cwmni ei ddefnyddio i greu cynhyrchion meddalwedd a fydd yn gwella diogelwch neu hygyrchedd y rhyngrwyd. Drwy wneud hyn, gobaith Geolang Ltd yw ehangu sail eu cwsmeriaid, gan werthu trwyddedau i ddatblygwyr meddalwedd a chaledwedd mawr drwy’r byd. Y gobaith yw y bydd potensial masnachol yr ymchwil hwn yn golygu o leiaf £250,000 o gynnydd yn nhrosiant y cwmni ac mae’n cydweddu ag uchelgais y cwmni o gyflogi rhwng pedwar a chwe aelod newydd o staff.
Ar ôl dros ugain mlynedd fel entrepreneur llwyddiannus, roedd Debbie yn awyddus i astudio am gymhwyster ôl-raddedig i ffurfioli ei statws fel un o brif arbenigwyr y DU mewn amgodio iaith. Roedd Debbie’n gweld fod POWIS yn gyfle i fanteisio ar ei phrofiad unigryw a helpu busnes Cymreig i roi amser i ymchwil a fyddai fel arall yn ormod o faich.
Wrth dderbyn ei dyfarniad POWIS dywedodd Debbie:
“Mae’r tîm yn Geolang a fi yn hynod o ddiolchgar am y cyfle i ddatblygu ein syniadau busnes a’n gweledigaeth ymhellach gyda chymorth goruchwylwyr o’r radd flaenaf o academia a diwydiant yma yng Nghymru a thramor.
“Mae hwn yn brosiect cyffrous i Gymru a fydd yn gosod llawer o gynhyrchion arloesol gan gwmnïau o Gymru ar y llwyfan byd-eang. Mae’n anrhydedd i mi ac rwy’n gyffrous iawn mai fi yw’r ysgolhaig cyntaf i elwa ar y cymorth gan Ymddiriedolaeth Arloesi Tywysog Cymru.”
Ymhlith goruchwylwyr y prosiect o academia a’r Gymuned Fusnes Ryngwladol mae Dr Richard Picking a’r Athro Vic Grout o Ganolfan Ymchwil Rhyngrwyd Cymwysedig Prifysgol Glyndŵr, Dr Kevin Larson o Microsoft a’r arbenigwr systemau ysgrifennu ac Unicode byd-enwog Michael Everson o Evertype yn Iwerddon.
Dywedodd yr Athro Dylan Jones-Evans, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Cymru:
“Mae rhaglen Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru yn golygu dod ag academyddion a busnesau at ei gilydd er budd economi Cymru, lle bynnag y bônt. Nod Prifysgol Cymru yw annog arloesi ar draws pob rhan o Gymru drwy POWIS a mentrau eraill. Rwyf i’n falch y bydd yr ysgoloriaeth POWIS gyntaf yn defnyddio arbenigedd Prifysgol Glyndŵr, sydd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, er budd cwmni o Dde Orllewin Cymru.”
Ychwanegodd EUB Tywysog Cymru:
“Rwyf i’n falch, fel Canghellor y Brifysgol, o gynnig cefnogaeth i’r Ysgoloriaethau ... mae’r rhain yn fy marn i yn ateb ymarferol - a chyffrous - iawn sy’n dangos sut y gall addysg uwch helpu economi Cymru.”
/Diwedd
NODIADAU I OLYGYDDION
I gael gwybodaeth i’r Wasg a’r Cyfryngau, cysyllter â Joanna Davies, Pennaeth Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: cyfryngaucymru.ac.uk
Ffôn: 07534 228754
Rhagor o wybodaeth am Debbie Garside:
Ganwyd Debbie Garside yng Nghrewkerne yng Ngwlad yr Haf ym 1963. Fe’i magwyd yn Sherborne, Swydd Dorset, a hi oedd y Cynghorydd Tref ieuengaf yno pan oedd yn 28. Symudodd i Gymru ym 1994 ac roedd yn Aelod Ymgynghorol o Fwrdd Ymddiriedolaeth Wikimedia tan fis Mehefin 2009.
Mae Debbie hefyd wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Rheoli ICT Enterprise Ltd a hi yw Prif Swyddog Gweithredol y sefydliad dielw, Canolfan Dogfennau Iaith y Byd.
Mae hi’n cyfrannu at y gwaith o greu Safonau Rhyngwladol (ISO) a Phrydeinig (BSI) ac ar hyn o bryd hi yw arweinydd prosiect a Golygydd ISO 639-6 a gyhoeddwyd yn ystod 2009.
Gwybodaeth am POWIS:
-
Mae pob ysgoloriaeth POWIS yn gosod ysgolhaig o safon fyd-eang mewn cwmni am gyfnod o dair blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw byddant yn ymgymryd â gweithgaredd ymchwil a datblygu ar unrhyw agwedd o waith y cwmni, boed wella cynhyrchion a gwasanaeth y cwmni, eu prosesau mewnol neu eu rhyngweithio â chwmnïau eraill.
-
Disgwylir i Ysgolheigion POWIS gael eu lleoli gyda’u cwmni nawdd ar sail lawn amser a defnyddio canlyniadau’r cyfnod hwnnw i gwblhau PhD. Rhaid i hwn fod yn gytundeb sydd er budd pawb, gyda’r cwmni a’r ysgolhaig ill dau yn cael y fantais fwyaf bosibl o’r rhaglen.
I gael rhagor o wybodaeth am POWIS, ebostiwch: powiscymru.ac.uk neu ewch i