Wedi ei bostio ar 25 Ionawr 2012

Entrepreneur benywaidd
Mae astudiaeth newydd wedi canfod bod merched sy’n entrepreneuriaid yn fwy tebygol na’u cymheiriaid gwrywaidd o deimlo bod anhawster wrth sicrhau cyllid yn rhwystr i ddechrau busnes.
Mae’r papur “Differences in perceptions of access to finance between potential male and female entrepreneurs” a ysgrifennwyd ar y cyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans, Cyfarwyddwr Menter ac Arloesedd ym Mhrifysgol Cymru, Dr Caleb Kwong a Dr Piers Thompson, a gyhoeddwyd yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn International Journal of Entrepreneurial Behaviour & Research, yn ymchwilio a yw bod yn fenywaidd yn cynyddu’r posibilrwydd o deimlo bod anhawster wrth sicrhau cyllid yn rhwystr i ddechrau busnes.
Yn defnyddio data gan 49,107 o unigolion a holwyd fel rhan o’r arolwg Monitor Entrepreneuriaeth Byd-Eang (GEM), mae canlyniadau’r astudiaeth yn dangos bod merched yn fwy tebygol o ddirnad eu bod yn ariannol gyfyngedig na’u cymheiriaid gwrywaidd. Yn ogystal, canfu’r ymchwil fod rhyw yn chwarae rhan ddylanwadol yn rhwystro entrepreneuriaid benywaidd posibl rhag dechrau busnes newydd pan nad oes unrhyw rwystrau eraill yn bodoli. Mewn gwirionedd, canfu’r modelau a ddatblygwyd bod merched rhyw 10 y cant yn fwy tebygol na dynion i ddirnad mai cyllid yw’r unig rwystr i entrepreneuriaeth.
Yn ôl yr Athro Jones-Evans, mae yna rôl i wneuthurwyr polisi i ddatblygu peirianweithiau cefnogi penodol i fynd i’r afael â’r mater hwn:
“Dylai caffaeladwyedd cyllid dechrau busnes gan wahanol ffynonellau gael ei farchnata gan wahanol sefydliadau cefnogi er mwyn annog merched i geisio sicrhau’r cyllid angenrheidiol yn hytrach na digalonni yn wyneb y rhwystr cyntaf. Mae hyn yn cynnwys yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth ariannol a llythrennedd ariannol, fel bod entrepreneuriaid benywaidd posibl yn ymwybodol o’r holl ddewisiadau ariannol posib sydd ar gael iddynt yn ogystal â chynyddu eu gallu i ddefnyddio’r ffynonellau ariannol hynny y maent yn ymwybodol ohonynt. Dylai’r rhain ymddangos nid yn unig gan gyrff cyhoeddus a grwpiau rhanddeiliaid merched, ond hefyd gan y sector breifat a sefydliadau sydd wedi eu lleoli yn y gymuned, fel undebau credyd, sydd â mwy o allu i gyrraedd ymhellach”.
Canfu’r astudiaeth hefyd bod addysg yn effeithiol yn lleihau’r ddirnadaeth hon o gyfyngiadau ariannol ymysg merched. Mae hyn yn awgrymu y gallai graddedigion benywaidd fod yn ffynhonnell gref o entrepreneuriaid posibl sy’n llai tebygol o ddirnad sicrhau cyllid fel problem ac sydd mewn lle mwy cadarnhaol i allu caffael cyllid allanol. A derbyn hyn, awgryma’r Athro Jones-Evans y gallai sefydliadau addysg uwch chwarae rhan allweddol yn cefnogi datblygiad entrepreneuriaid benywaidd.
“Gallai prifysgolion gynyddu’r lefel o weithgaredd entrepreneuraidd gan fenywod trwy hysbysebu buddion entrepreneuriaeth a’i bosibiliadau fel gyrfa. Gellid ymgymryd â hyn trwy raglenni addysg entrepreneuriaeth ar draws cyfadrannau sy’n mynd i’r afael ag anghenion yr holl fyfyrwyr yn hytrach na myfyrwyr busnes yn unig. Yn bwysicach, gallant ddarparu mentrau sydd wedi eu targedu’n uniongyrchol at anghenion penodol entrepreneuriaid benywaidd posibl o fewn poblogaeth y myfyrwyr”.
Yr Athro Dylan Jones-Evans yw Cyfarwyddwr Menter ac Arloesedd Prifysgol Cymru.
Mae Dr Caleb Kwong yn ddarlithydd mewn Arloesedd ym Mhrifysgol Essex, Southend-on-Sea.
Mae Dr Piers Thompson yn Uwch Ddarlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Gellir darllen y papur ‘Differences in perceptions of access to finance between potential male and female entrepreneurs: Evidence from the UK’, ar y ddolen hon:
http://www.emeraldinsight.com/journals.htm?articleid=17010595&ini=aob
/Gorffen
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r Academi Fyd-Eang, anfonwch ebost at: global.academy@cymru.ac.uk neu ewch i: www.globalacademy.org.uk
|Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Phrifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tomas Llewelyn Barrett, Swyddog Cyfathrebu t.barrett@cymru.ac.uk