Wedi ei bostio ar 18 Medi 2012
Am yr ail flwyddyn yn olynol, cwmni o ogledd Cymru sydd ar y brig yn Rhestr Twf Cyflym Cymru, yn dilyn llwyddiant Golchdy Afonwen o Bwllheli yn 2001.
Mae’r rhestr flynyddol a grëwyd gan Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru yn nodi’r busnesau sydd yn tyfu gyflymaf yng Nghymru.
Yn ystod y cyfnod 2009-2011, tyfodd Glyndwr Innovations - cerbyd masnachol Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam - 494% sy’n golygu mai dyma’r cwmni sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru yn 2012. Mae’n ymwneud â’r gymuned busnes a’r sectorau cyhoeddus ledled y rhanbarth gan gyflenwi datrysiadau busnes yn defnyddio tîm o entrepreneuriaid hynod o dalentog sy’n ymrwymedig ac yn tynnu ar amrywiaeth eang o arbenigedd o fewn y brifysgol a thrwy gysylltiadau allanol i ddarparu gwasanaethau i fusnesau o rai rhyngwladol i BBaChau.
Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn ar ddeg, Rhestr Twf Cyflym 50 yw’r baromedr blynyddol o gwmnïau entrepreneuraidd yng Nghymru. Er 1999, mae 440 o gwmnïau wedi ymddangos yn y rhestrau, gan greu dros 22,000 o swyddi a thros £12 biliwn ychwanegol o drosiant yn flynyddol yn economi Cymru, gyda llawer o hyn yn cael ei wario ar nwyddau a gwasanaethau lleol.
Yn ôl yr Athro Dylan Jones-Evans, crëwr Twf Cyflym 50, mae’r cynnydd gorau erioed yn y rhestr eleni yn amserol
“Gyda dirfawr angen hwb ar economi Cymru ar hyn o bryd, mae’r cwmnïau yn Rhestr Twf Cyflym 50 2012 yn dangos unwaith eto y potensial entrepreneuraidd ac arloesol sy’n bodoli yn y gymuned fusnes. Gyda’i gilydd, creodd yr hanner cant o gwmnïau dros £3 biliwn o drosiant yn 2011 sy’n record. Yn bwysicach, crëwyd dros 3,800 o swyddi newydd rhwng 2009 a 2011 gan ddangos hyd yn oed o fewn cyfnod economaidd anodd, y gall busnes Cymru fod yn gystadleuol mewn amgylchedd byd-eang sy’n gynyddol gynhyrfus.
“Mae’r ffaith fod cwmni sy’n seiliedig mewn prifysgol ar frig y rhestr eleni yn anfon neges glir am bwysigrwydd sicrhau bod addysg uwch yn cysylltu’n agosach â diwydiant lleol i gefnogi economi Cymru. Yn aml caiff prifysgolion eu beirniadu am beidio ag ymgysylltu’n llawn â busnes felly mae llwyddiant Glyndwr Innovations yn newyddion ardderchog a gallwn ni ond obeithio y bydd eu llwyddiant yn hwb i sefydliadau addysg uwch eraill ddilyn yn ôl eu troed dros y blynyddoedd nesaf.”
Ceir rhestr lawn o gwmnïau buddugol eleni yn www.fastgrowth50.com
/Diwedd