Wedi ei bostio ar 27 Mawrth 2012

(Chwith i'r dde) Yr Athro Peter Stead, Cynghorydd Mike Day, Jade Newson, Cynghorydd Mary Jones ac Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd Chris Holley
Mae seren lenyddol ddiweddaraf Abertawe wedi’i darganfod.
Llwyddodd Jade Newson, disgybl 11 oed yn Ysgol Gyfun Cefn Hengoed i guro ugeiniau o lenorion ifanc eraill ac ennill cystadleuaeth glodfawr o’r enw Canfod Dylan.
Lansiwyd y gystadleuaeth gan Gyngor Abertawe haf diwethaf mewn cydweithrediad â Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru - gwobr ariannol fwyaf y byd i ysgrifenwyr ifanc. Y nod oedd dod o hyd i’r Dylan Thomas nesaf yn Abertawe.
Gofynnwyd i blant ysgrifennu ysgrif, cerdd neu ddyddiadur heb fod yn hirach na 1,000 o eiriau ar ddewis o destunau: Fy Haf, Fy Nhîm, Fy Abertawe neu Fy Nghymru.
Targedwyd y gystadleuaeth at yr holl gyn-ddisgyblion blwyddyn saith yn Abertawe a adawodd yr ysgol gynradd ym mis Gorffennaf y llynedd.
Ysgrifennodd Jade, cyn-ddisgybl yn Ysgol Gynradd St Thomas, gerdd o’r enw The Swansea Sunset wrth eistedd ar riniog ei chartref ym Mhorth Tennant.
Roedd panel y beirniaid yn cynnwys awduron, academyddion a chyn-ddisgyblion enwog o ysgolion a phrifysgolion Abertawe. Yn eu plith roedd y comedïwr Chris Corcoran a’r awdur Peter Stead.
Mae llwyddiant Jade yn golygu y bydd nawr yn mynd gyda’i theulu i Disneyland ym Mharis fel gwobr am ei champ.
Ewch i http://www.dylanthomasprize.com/prize neu ffonio 01792 474051 am ragor o wybodaeth.
/DIWEDD