Wedi ei bostio ar 26 Gorffennaf 2011

Yr Athro Simon Haslett, Deon STEM, prif olygydd Pedagogy of Climate Change.
Newydd ei chyhoeddi mae cyfrol hirddisgwyliedig am y modd y mae prifysgolion yn addysgu myfyrwyr am newid hinsawdd, dan arweiniad Athro ym Mhrifysgol Cymru.
Mae Pedagogy of Climate Change yn cynnwys 10 pennod wedi’u hysgrifennu gan academyddion o’r DU ac Awstralia, yn amrywio o agweddau sefydliadol traws-gampws at newid hinsawdd i’r modd yr asesir myfyrwyr ar faterion newid hinsawdd.
Prif olygydd y gyfrol yw’r Athro Simon Haslett, Deon Ysgol STEM Prifysgol Cymru a welodd yr angen am y llyfr ar ôl trefnu symposiwm â’r un enw ar gyfer y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru, mae academyddion o Brifysgol Caer, Prifysgol Plymouth a’r Academi Addysg Uwch, ymhlith eraill, wedi cydweithio i gynhyrchu’r gyfrol.
Dywedodd Simon Haslett, sy’n Athro Daearyddiaeth Ffisegol “Mae addysg newid hinsawdd yn wynebu heriau sylweddol ar hyn o bryd oherwydd llwyddiant cyfyngedig uwchgynadleddau rhyngwladol diweddar megis Copenhagen, sgandalau megis ‘climategate’ oedd yn ymwneud ag ebyst academaidd a ryddhawyd, a’r ffaith fod Ewrop newydd brofi dau o’r gaeafau oeraf ers blynyddoedd lawer .”
“Mae’r cyhoedd a myfyrwyr bellach yn fwy amheus ynglŷn â sail wyddonol newid hinsawdd, a thasg darlithwyr yw cyflwyno’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth iddynt allu gwerthuso adroddiadau’r cyfryngau yn y ffordd iawn.”
“Yr hyn sy’n peri pryder yw’r ‘blinder gwyrdd’ cynyddol sydd gan fyfyrwyr, oherwydd mae’r genhedlaeth bresennol wedi cael eu dysgu am newid hinsawdd drwy eu gyrfa ysgol ac felly yn aml maent wedi cael llond bol o glywed amdano eto yn y brifysgol.”
“Mae angen i ddarlithwyr a phrifysgolion fod yn arloesol a difyr fel bod myfyrwyr yn cymryd sylw - wedi’r cyfan mae’n bosibl mai’r genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr fydd y graddedigion olaf a fydd yn gallu sicrhau newid ystyrlon cyn bod effeithiau newid hinsawdd difrifol yn digwydd. Mae’r gyfrol hon yn cynnig enghreifftiau o’r ffordd y mae academyddion a phrifysgolion wedi newid pethau.”
Cyhoeddir y gyfrol gan yr Academi Addysg Uwch ac mae modd ei lawrlwytho o’u gwefan, er mwyn iddi fod ar gael i bawb. Cyflwynwyd y gyfrol hefyd gan dîm o Brifysgol Cymru yn yr arddangosfa Newid Hinsawdd yn Abertawe yr wythnos hon, ac mae copïau’n cael eu hanfon at holl sefydliadau Prifysgol Cymru. Mae cyhoeddi’r gyfrol yn rhan o gyfraniad ehangach y Brifysgol i addysg datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yng Nghymru.
/Diwedd
Gellir lawrlwytho Pedagogy of Climate Change o http://gees.ac.uk/pubs/other/pocc/pocc.htm
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk