Wedi ei bostio ar 25 Mai 2010
Mae gan y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad un ers 350 mlynedd, mae gan Yr Alban un ei hun ers bron i 320 mlynedd, ond tan heddiw does dim cymdeithas ddysgu genedlaethol wedi bodoli yng Nghymru. Bwriad Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw llenwi’r bwlch hwn unwaith ac am byth. Bydd y Gymdeithas yn cael ei lansio gan ei Lywydd a’i Gymrawd Cychwynnol, yr Athro Syr John Cadogan CBE, ar ddydd Mawrth 25 o Fai 2010 yn Theatr y Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.
Bydd y digwyddiad yn cychwyn am 5pm ac yn gorffen gydag Araith Sefydlu'r Llywydd am 6.20pm. Cynhelir derbyniad ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Cymru am 7pm. Fe fydd oddeutu 40 o Sefydlwyr y Gymdeithas yn mynychu’r seremoni, gan gynnwys dysgodron megis Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Marc Clement; yr Athro Fonesig Jean Thomas FRS (Is-lywydd y Gymdeithas Frenhinol); Yr Athro Susan Mendus (Is-lywydd yr Academi Brydeinig) a’r Athro Syr John Meurig Thomas.
Ei nod hefyd yw hyrwyddo datblygu dysgu ac ysgolheictod a’r defnydd a wneir o ganlyniadau ymchwil ac ymholiadau academaidd. Fe fydd y Gymdeithas yn ogystal yn gweithredu fel ffynhonnell cyngor ysgolheigaidd arbenigol annibynnol ac yn lleisio barn ar faterion yn ymwneud â lles Cymru a’i phobl ynghyd â gweithio i wella trafodaeth a rhyngweithio cyhoeddus ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol
Dywedir bod dyfodol unrhyw gymdeithas fodern ddatblygedig yn dibynnu ar feithrin diwylliant o wybodaeth ac yn ol Syr John mae gan y Gymdeithas Ddysgedig rôl bwysig i chwarae mewn llwyddiannau Cymru yn y dyfodol. Mae’r ffaith bod Cymru, yn wahanol i wledydd eraill, heb gydnabod a darparu ffocws ar gyfer ysgolheictod, dysgu ac ymchwil drwy academi genedlaethol o gelfyddydau a gwyddorau, wedi bod yn destun pryder ers amser:
“Mae’r arbenigedd a’r gallu gennym yma yng Nghymru, ond hyd yma, does yna’r un gymdeithas wedi bodoli a all ddod â’r arbenigeddau ynghyd. Dyna’n rôl a’n cyfle ni. Yn ogystal â phencampwyr eu meysydd sy’n gweithio yng Nghymru - fel ymchwil i gelloedd - mae angen i ni fanteisio ar arbenigeddau ein Cymry alltud er budd ein gwlad. Rhaid i hyn gynnwys y celfyddydau ac astudiaethau cymdeithasol yn ogystal â gwyddoniaeth a pheirianneg.
“Ein bwriad yw dathlu, cydnabod, diogelu, amddiffyn ac annog rhagoriaethau ym mhob un o’r disgyblaethau ysgolheigaidd, galwedigaethau, diwydiant a masnach, y celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus. Mae sefydlu’r Gymdeithas Ddysgedig, er ei fod yn hir ddisgwyliedig, yn nodi carreg filltir yn hanes Cymru ac yn bleidlais o ffydd yng ngallu a dyfodol potensial academig y genedl.
“Heb os nac oni bai mae Cymru wedi aeddfedu fel gwlad o ganlyniad i ddegawd o ddatganoli. Ond dydyn ni dal ddim yn rhoi digon o werth i dystiolaeth wrth wneud penderfyniadau. Dylen ni ddim gwneud penderfyniadau ar beth rydyn ni’n ei gredu ond yn hytrach edrych ar beth mae tystiolaeth yn dangos i ni."
Aeth Syr John yn ei flaen i esbonio pwysigrwydd Prifysgolion i economi Cymru:
“Mae prifysgolion yn allweddol wrth greu cyfoeth i Gymru. Maent yn hyfforddi a bwydo meddwl yr ifanc ac yn gwneud darganfyddiadau heb i ni fod yn ymwybodol fod yna bethau newydd i ddarganfod. Yn hytrach na bod yn rhan fechan o ddiwydiant, mae gan brifysgolion rôl dyngedfennol mewn creu syniadau ac arbenigedd. Heb ganolfannau rhagoriaeth does gan gwmnïau technoleg uwch ddim rheswm dros adleoli a ni fydd mentrau newydd yn cael eu creu. Nid oes gan Gymru sector breifat ddigon cryf i greu'r cyfoeth sydd angen i gynnal y wlad.
“Dylai ein prifysgolion gychwyn a chefnogi diwydiant. Er hynny rhaid i Gymru ariannu ei phrifysgolion yn iawn. Mae’r gwahaniaeth gwariant ar gyfer prifysgolion rhwng Cymru a Lloegr dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, heb ystyried codiad Barnett, yn £425 miliwn tra bod y gwahaniaeth rhwng Cymru a’r Alban hyd yn oed yn fwy ac yn agosach at £900 miliwn. Er syndod, mae ein prifysgolion wedi gwneud yn dda ac er bod llawer o drafod am doriadau yn y sector gyhoeddus mae’n bwysig nodi fod ein prifysgolion wedi gweld toriadau yn eu cyllid yn barod.
“Rydym yn clywed llawer am yr angen i Gymru gael ei chydnabod fel ‘Gwlad Fach Fedrus’. Bwriad y Gymdeithas Ddysgedig yw tanategu medrusrwydd y genedl. Mae Cymru’n wynebu dyfodol ariannol anodd iawn, felly mae’n hanfodol nawr, yn fwy nag erioed, bod sefydliad yn bodoli i amddiffyn ac ymgyrchu dros weithgareddau a swyddogaethau sy’n sail i’r syniad o ‘Fedrusrwydd’ Cymru.”
Gobaith Syr John yw y bydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru erbyn 2015, wedi ei sefydlu fel cynrychiolydd cydnabyddedig ym myd dysgu yng Nghymru yn rhyngwladol. Gobeithir hefyd y bydd y Gymdeithas yn cael ei hystyried fel ffynhonnell cyngor a sylw beirniadol, ysgolheigaidd ac awdurdodol i’r Cynulliad Cenedlaethol a chyrff eraill ar faterion polisi yn ymwneud â Chymru.
Ychwanegodd yr Athro Susan Mendus, Sefydlwr ac Is-lywydd Yr Academi Brydeinig:
“Mae’n fraint enfawr i mi fod yn un o Gymrodyr Cychwynnol Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Wedi cael fy ngeni ,fy magu a fy addysgu yng Nghymru, yn gyntaf yn Abertawe, yna Llanilltud Fawr, wedyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn olaf yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, alla i ddim meddwl am fraint mwy na bod yn y cwmni arbennig yma.
“Mae’r Academi Brydeinig yn anfon ei gyfarchion gwresog a dymuniadau gorau i Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar achlysur ei lawns swyddogol. Mae Cymru yn enwog am ei ymrwymiad i ddiwylliant, addysg ac i ragoroldeb deallus yn gyffredinol. Mae sefydliad y Gymdeithas Ddysgedig yn cydnabod yr ymrwymiad yma ac yn llenwi bwlch mawr ym mywyd dinesig a deallus y Dywysogaeth.”
Dywedodd Dr William Duncan, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol Caeredin, “Mae sefydliad Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ddatblygiad pwysig oherwydd mae’n darparu delfryd tu hwnt i Gymru.
“Mae datganoli yng Nghymru, fel yn yr Alban, wedi darparu ffocws cenedlaethol cryf a gyda sefydliad y Gymdeithas Ddysgedig yng Nghymru mae yna sefydliad annibynnol sydd wedi ei seilio ar dystiolaeth yng Nghymru ar gael i wleidyddion a gweision sifil sydd eisiau cyngor ar amrywiaeth eang o bynciau.
“Fe fydd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru swyddogaeth wladol bwysig, ond ei brif gryfder yw gweithredu ar lwyfan rhyngwladol ehangach ac i fynegi materion lle mae diddordebau Cymru yn wahanol i rai'r DU, fel mae Cymdeithas Frenhinol Caeredin yn gwneud yma yn yr Alban.”
DIWEDD
Am wybodaeth bellach cysylltwch â Rhodri Ellis Owen yn Cambrensis Communications ar 029 20 257075 neu ebostiwch: rhodri@cambrensis.uk.com
Nodiadau i’r Golygyddion:
Cenhadaeth y Gymdeithas yw dathlu, cydnabod, gwarchod ac annog rhagoriaeth ym mhob disgyblaeth ysgolheigaidd, ac yn y proffesiynau, diwydiant a masnach, y Celfyddydau a gwasanaeth cyhoeddus. Fe fydd hefyd yn hyrwyddo datblygiad dysg ac ysgolheictod a rhannu a chymhwyso canlyniadau ymholiadau ac ymchwil academaidd. Fe fydd y Gymdeithas hefyd yn gweithredu fel ffynhonnell o gyngor a sylwadau ysgolheigaidd annibynnol ac arbenigol ar faterion sy’n effeithio ar les Cymru a’i phobl a datblygu trafodaeth a rhyngweithio cyhoeddus ar faterion o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.
Gellir cael mwy o wybodaeth am Cymdeithas Ddysgedig Cymru wrth e-bostio lsw@wales.ac.uk /cddc@cymru.ac.uk