Wales and the French Revolution: Too Early to Tell?

Wedi ei bostio ar 16 Tachwedd 2012

Y Chwyldro Ffrengig ym 1789 o bosibl oedd digwyddiad diffiniol y cyfnod Rhamantaidd yn Ewrop: cyfnod cyffrous, llawn gobaith ac ofn: cyfnod pan newidiwyd cymdeithasau Ewrop am byth.

Ddydd Mercher nesaf, 21 Tachwedd, bydd Dr Mary-Ann Constantine yn ystyried canfyddiadau prosiect ymchwil newydd ar ymateb pobl Cymru i heriau’r oes mewn darlith â’r teitl ‘Wales and the French Revolution: Too Early to Tell?’

Mae Dr Mary-Ann Constantine yn Uwch Gymrawd yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a hi yw arweinydd y prosiect Cymru a’r Chwyldro Ffrengig, a gyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).

Trefnir y ddarlith gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a chaiff ei chynnal yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Mae’r digwyddiad sydd am ddim yn dechrau am 6.00pm. Bydd croeso i bawb a darperir gwin a lluniaeth ysgafn ar ddiwedd y ddarlith.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ewch i http://learnedsocietywales.ac.uk/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau