Gwasg Prifysgol Cymru

Wedi ei bostio ar 5 Chwefror 2019
UW Press Home Box

GPC

Y mis hwn o Wasg Prifysgol Cymru, mae cyfrol Rhiannon Ifans, Red Hearts and Roses?: Welsh Valentine Songs and Poems yn gasgliad cyfoethog o ganeuon am y tro cyntaf yn eu hiaith wreiddiol, wedi’u cyfieithu i’r Saesneg gyda nodiant cerddorol. Mae J. Graham Jones wedi adolygu Red Hearts and Roses? i Gwales gan ddweud “Mae’r gyfrol hon, sydd wedi’i chynhyrchu’n hynod o ddeniadol, ac sy’n gredyd gwirioneddol i Wasg Prifysgol Cymru, yn adlewyrchu ymchwil arloesol, hynod arbenigol helaeth iawn sydd yn amlwg yn estyn dros lawer o flynyddoedd.” I ddarllen yr adolygiad llawn, ewch i http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781786833716&tsid=5

Ar ein blog diweddaraf mae Kathrin McCann yn cyflwyno ei chyfrol newydd, Anglo-Saxon Kingship and Political Power: Rex gratia Dei. Gallwch ei ddarllen www.uwp.co.uk/author-blog-anglo-saxon-kingship-and-political-power/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori