Wedi ei bostio ar 30 Ebrill 2010

Gwaith celf gan Nikki Cass (h) Nikki Cass
Daeth dau fyd cwbl gwahanol at ei gilydd neithiwr yn Seremoni Dyfarniadau Celfyddydau a Busnes Cymru 2010 yng Nghanolfan y Mileniwm. 'Roedd Prifysgol Cymru yn falch i fod yn ran o'r digwyddiad eleni yn noddi'r derbyniad a ddenodd dros 400 o westeion o sectorau busnes a chelfyddydau Cymru. 'Roeddwn yn awyddus iawn i gymryd rhan gan fod ein hamcanion yn cynnwys cefnogi busnes a diwylliant Cymru cymaint ag sy'n bosibl.
Enillodd naw cwmni wobrau neithiwr a noddwyd gan Chevron a'r Post Brenhinol-oll yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr busnes i'r celfyddydau ar draws y wlad.
Admiral enillodd y wobr 'Busnes y Flwyddyn' a Carl Grainger o'r 'Information Network' enillodd Unigolyn y Flwyddyn am ei gyfraniad i Sinfonia Cymru. Cwmni Celf Valleys Kids o'r Rhondda cipiodd y wobr celfyddydau am 'waith creadigol gyda busnes yng Nghymru'.
'Roedd yna nifer o wynebau enwog ymysg y gynulleidfa yn cynnwys yr athletwr Colin Jackson; y darlledwraig, Kate Adie a'r canwr Rhydian Roberts. Cyflwynodd yr actorion Julian Lewis Jones, Suzanne Packer, Steffan Rhodri a Melanie Walters y tlysau i'r buddugwyr a ddyluniwyd yn arbennig i'r noson gan yr artist o Abertawe, Nikki Cass.
'Roedd y darlledwyr Nicola Heywood-Thomas ac Arfon Haines Davies yn cyflwyno'r noson a chafwyd perfformiadau byw gan nifer o artistiaid yn cynnwys araith gan yr eicon o Gymro, Max Boyce.
Dywedodd Rachel Jones, Cyfarwyddwraig Celfyddydau a Busnes Cymru:
"Mae'r gefnogaeth cyson oddi wrth y gymuned fusnes i'r celfyddydau yn dangos gwerth y berthynas i'r ddwy ochr ac mae'r dyfarniadau yn dangos cymaint y gall y partneriaethau yma gyflawni."
/Diwedd
Am wybodaeth am Gelfyddydau a Busnes Cymru ewch i: www.artsandbusiness.org.uk
Am wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk