Wedi ei bostio ar 6 Hydref 2011

Logo Prifysgol Cymru
Bydd Prifysgol Cymru yn lansio strategaeth academaidd newydd, a fydd yn gweld y sefydliad yn dyfarnu graddau i fyfyrwyr ar gyrsiau a gynllunnir ac a reolir yn llwyr gan y Brifysgol yn unig.
Gwnaed y cyhoeddiad gan yr Athro Medwin Hughes ar ei ddiwrnod cyntaf yn Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, sy'n ei thrawsnewid ei hun drwy uno â Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant.
Bydd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn peidio â bod yn gorff achredu i sefydliadau eraill yng Nghymru. Bydd yn dechrau ar drafodaethau gyda’r Prifysgolion hyn i dynnu’n ôl o ddyfarnu graddau i’w myfyrwyr. Bydd y Brifysgol hefyd yn dod â rhaglenni dilysedig a gynigir mewn canolfannau yn y DU a thramor i ben gan gyflwyno model academaidd newydd.
Dywedodd yr Athro Hughes heddiw ei fod yn parhau ag adolygiadau a gychwynnwyd gan ei ragflaenydd yr Athro Marc Clement, a fydd nawr yn ymgymryd â rôl Llywydd Prifysgol Cymru.
Mae hefyd yn dilyn penderfyniad Cyngor Prifysgol Cymru ar 23 Mai 2011 i beidio â chymeradwyo unrhyw ganolfannau newydd na dechrau dilysu unrhyw raglenni newydd.
Dywedodd yr Athro Hughes, “Yng ngoleuni newidiadau polisi Addysg Uwch yng Nghymru, a chreu Prifysgol Cymru newydd, rydym yn credu mai dyma'r amser i ni fabwysiadu strategaeth academaidd newydd a dyfarnu graddau Prifysgol Cymru dim ond i fyfyrwyr ar gyrsiau sydd wedi’u cynllunio a’u rheoli’n llwyr gan Brifysgol Cymru. Rydym felly'n bwriadu dod â'r model dilysu cyfredol i ben."
"Mae gennym ddyletswydd gofal i’r holl fyfyrwyr sydd ar raglenni cyfredol a byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiadau iddynt. Fodd bynnag, o’r flwyddyn nesaf ymlaen, bydd rhaid i bob Prifysgol yng Nghymru naill ai ddefnyddio eu pwerau dyfarnu graddau eu hunain neu wneud trefniadau eraill ar gyfer y cyrsiau y maent yn eu rhedeg yn lleol ac ar sail drawsgenedlaethol.
"A bydd ein cydweithio rhyngwladol ninnau bellach i gyd yn seiliedig ar gyrsiau a gynllunnir ac a reolir yn llawn gan Brifysgol Cymru, wedi’u gwreiddio yn ein Cyfadrannau a than arweiniad ein staff academaidd ein hunain. Rydym yn parhau’n ymrwymedig i rôl fyd-eang ac fe gredwn y gall wasanaethu Cymru’n dda.
Bydd Prifysgolion sy’n cael eu heffeithio gan y strategaeth newydd yn cael cyfnod rhybudd o un flwyddyn, cyn i’r newidiadau ddod yn weithredol ar ddechrau blwyddyn academaidd 2012.
Ymateb i bolisi Llywodraeth Cymru i ailffurfio addysg uwch yw’r uno, a bydd yn creu un sefydliad integredig gyda’r gallu strategol i helpu Cymru i gyflawni potensial llawn ei buddsoddiad mewn dysgu, ymchwil ac arloesi a chefnogi strategaethau Economaidd Llywodraeth Cymru.
Fel Llywydd Prifysgol Cymru, yr Athro Clement fydd yn gyfrifol am ehangu rôl y Brifysgol drwy arloesi a menter ac am uchafu ei chyfraniad, drwy ymchwil a phartneriaethau strategol, at adfywiad economaidd a chymdeithasol yng Nghymru, y DU ac yn fyd-eang.
“Ein nod yw creu Prifysgol a fydd wedi’i thrawsnewid ac a fydd ag anghenion Cymru wrth wraidd popeth a wnawn,” meddai’r Athro Clement.
“Bydd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn adeiladu ar gyflawniadau’r tri phartner sy’n uno i gyflenwi dysgu gydol oes hygyrch, ymchwil gymwysedig a throsglwyddo gwybodaeth, a chyfleoedd gwych ar gyfer menter ac arloesi."
Dan un corff llywodraethu, strwythur rheoli a strategaeth academaidd newydd, bydd y Brifysgol yn sicrhau’r safonau uchaf o lywodraethu ac yn parhau i gyflenwi ymchwil a rhagoriaeth addysgol.
/DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk