Gwasg Prifysgol Cymru'n ennill gwobrau cyhoeddi

Wedi ei bostio ar 24 Mai 2010
ffuglen cover

Mae Gwasg Prifysgol Cymru unwaith eto yn y newyddion. Mae'r Wasg eisioes wedi cyrraedd rhestr fer Dyfarniad Celf Berger ac mae dau gyhoeddiad o'i gwaith yn y Gymraeg a'r Saesneg wedi cyrraedd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2010. Yn wir, mae'r Wasg yn mynd o nerth i nerth gan ei bod newydd ennill dwy wobr gyhoeddi o bwys yn ogystal.

Bob blwyddyn mae Pwyllgor Cyhoeddiadau ac Ymchwil Gydweithredol yn dyfarnu gwobrau i'r cyhoeddiadau ymchwil gorau yng Nghymru. Eleni, dyfarnwyd Gwobr Goffa Vernam Hull 2009 i Erich Poppe a Regina Reck am y gyfrol 'Selections from Ystorya Bown o Hamptwn' (Gwasg Prifysgol Cymru, 2009). Dyfernir Gwobr/Cyfrodd Goffa Vernam Hull am waith a gyhoeddwyd yn 2009 sy’n ymwneud â Rhyddiaith Gymraeg cyn 1700. Yn ogystal, enillodd yr awdur, Enid Jones, Wobr Goffa Ellis Griffiths 2009 am ei gwaith canmoladwy, ‘FfugLen: Y Ddelwedd o Gymru yn y Nofel Gymraeg o Ddechrau’r Chwedegau hyd at 1990,' (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008).

Wrth gwrs mae yna fwriad pendant i ddewis y teitl 'FfugLen' gan fod y gyfrol yn mynd o dan groen delwedd Cymru a'r Cymry yn llenyddiaeth Cymru'r 20g o'r 1960gau i 1990. Mae'r awdur yn astudio pa mor gywir yw'r portreadau llenyddol yma o fywyd Cymru dros y degawdau cythryblus yma'n ein hanes.

Mae ‘FfugLen’ hefyd yn canolbwyntio ar sut bortreadwyd elfennau megis iaith, tiriogaeth, crefydd, hanes a diwylliant yn llenyddiaeth modern Cymru a sut gwnaeth meddylfryd y Cymry newid dros dreigl amser.

Bwrw golwg ar Gymru o gyfnod fwy cynnar a wna 'Ystorya Bown o Hamptwn’ gyda detholiadau arbennig, cyflwyniad, a nodiadau manwl ar y stori epig Gymreig, 'Ystorya Bown o Hamtwn'.  

Mae gwreiddiau Ystorya Bown yn y stori epig Anglo-Normanaidd, 'Geste de Boeve de Haumtone', a gyfieithiwyd i'r Gymraeg, Saesneg Canol, Hen Norseg a Gwyddeleg Gyfoes Cynnar. Dyma stori am wydnwch Cristnogol sy'n cynnig cyfle arbennig i ddarllenwyr modern i ddysgu mwy am ddiwylliant a bywyd Cymru'r 13g.  Mae'r awdur, Erich Poppe, yn Athro Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Marburg yn yr Almaen ac mae ei gyd-awdur, Regine Reck, yn gynorthwy-ydd ymchwil yn yr un sefydliad.  

Dywedodd Helgard Krause, Pennaeth Gwasg Prifysgol Cymru:

"Mae'n wych i weld Gwasg Prifysgol Cymru yn cael y fath gydnabyddiaeth. 'Rwyf yn mawr obeithio y bydd y dyfarniadau hyn yn denu mwy o ddarllenwyr eto i fwynhau'r cyfrolau gwych yma."

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Daw’r Wobr/Cyfrodd o log blynyddol cymynrodd o Ddeng Mil (10,000) o ddoleri gan y diweddar Dr Vernam Edward Nunnemacher Hull (1894-1976), Athro mewn Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard, y dyfarnwyd iddo radd DLitt honoris causa gan Brifysgol Cymru ar achlysur y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Gydwladol ym 1963.

Mae Dyfarniad Ellis Griffiths o gronfa er cof am Syr Ellis Jones Ellis Griffith, MA, KC, PC, (1860-1926), cyn aelod seneddol oedd yn cynrychioli Sir Fôn am nifer o flynyddoedd.

I ddysgu mwy am Wasg Prifysgol Cymru ewch i'r wefan:  http://www.uwp.co.uk/

Am wybodaeth y wasg a'r cyfryngau cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk neu ffoniwch: 02920 376 907

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau