Wedi ei bostio ar 27 Ebrill 2010
Daeth dau sefydliad uchel eu parch yn y byd cyhoeddi at ei gilydd i gyflwyno llyfr allweddol sy’n mynd o dan groen y Gymru fodern . Dathlodd Gwasg Prifysgol Cymru a’r Brifysgol Agored lawns y cyhoeddiad, ‘Understanding Contemporary Wales’ mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm yn ddiweddar.
‘Roedd yna nifer o westeion yn y lawns gan gynnwys llond llaw o wleidyddion ac wynebau cyhoeddus mwyaf blaenllaw Cymru. Yn eu mysg roedd y Gweinidog dros Addysg Leighton Andrews AC, cynrychiolwyr o’r pedair prif blaid, a chyrff myfyrwyr y DU. Ymysg y siaradwyr gwadd roedd Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol a chyn ddarlithydd cyswllt yn y Brifysgol Agored, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.
Mae hon yn gyfrol a fydd yn angenrheidiol i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â chwrs newydd 12 wythnos gan y Brifysgol Agored sydd hefyd â’r teitl Contemporary Wales. Bydd y cwrs a’r llyfr yn trafod materion yn ymwneud â hunaniaeth Gymreig. Er enghraifft mae llawer o’r hen ddelweddau bellach yn anaddas ar gyfer canfyddiad pobl o Gymru heddiw. Erbyn hyn mae’r canolfannau galw wedi disodl’r pyllau glo –un enghraifft o’r sgism cymdeithasol sydd wedi effeithio ar y genedl dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Ond rhoddir sylw hefyd i bethau sy’n parhau yn y diwylliant Cymreig, megis rygbi, sy’n gweithredu fel glud cymdeithasol er gwaethaf ei drawsnewidiad ansicr o’r gêm amatur i’r un broffesiynol yng nghanol y 90au. Caiff gwahaniaethau daearyddol a chymdeithasegol eu hystyried, yn ogystal ag arwyddocâd diwylliant poblogaidd (gan gynnwys 'Doctor Who' a 'Gavin and Stacey'); y system etholiadol nodedig; tarddiad ac arwyddocâd y ‘dŵr coch clir’ sy’n diffinio Llafur yng Nghrymu; a’r elfennau o fewn cenedlaetholdeb sy’n aml yn ymgiprys â’i gilydd.
Dywedodd Dr Hugh Mackay, cadeirydd y cwrs a golygydd y gyfrol:
"Mae’r gyfrol a’r cwrs yn cynnig cyflwyniad cyflawn i natur newidiol Cymru gyfoes. Bydd y myfyriwr yn archwilio’r rhaniadau o fewn Cymru a hefyd y ffyrdd y mae cysylltiadau yn cael eu gwneud a’u mynegi o fewn y wlad. Roedd yr amrywiaeth eang o westeion yn y lansio yn dangos y gefnogaeth i gyfraniad y Brifysgol Agored at ehangu dealltwriaeth o’r newidiadau yng Nghymru fodern."
Gan siarad yn y lawns, ychwanegodd Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Ngymru, Rob Humphreys:
"Rydym yn hapus iawn i gydweithio gyda Gwasg Prifysgol Cymru ar y prosiect hwn. Mae traddodiad addysg oedolion yng Nghymru yn un hir a chyfoethog, ac mae wedi chwarae rôl ffurfiannol yn natblygiad cymdeithas, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r Brifysgol Agored yn flaenllaw yn y broses o ail-greu’r traddodiad hwnnw ar gyfer cyfnod gwahanol a heriol iawn. Mae angen dinasyddion gwybodus a chymdeithas sifil gyfoethog ac amrywiol ar ddemocratiaeth fywiog, ac mae’r cwrs hwn yn cyfrannu at sicrhau’r ddwy elfen hyn. Ar yr un pryd mae’r cwrs yn mynd â dealltwriaeth o Gymru i lwyfan rhyngwladol ehangach."
Dywedodd Pennaeth Gwasg Prifysgol Cymru, Helgard Krause:
“Yn ogystal â bod yn adnodd gwerthfawr i fyfyrwyr gwyddoniaethau cymdeithasol, mae ‘Understanding Contemporary Wales' hefyd yn gyfeirlyfr ardderchog i unrhywun sydd â diddordeb yn stori y Gymru fodern. Edrychwn ymlaen yn nawr at mwy o gyfleoedd i weithio gyda’r Brifysgol Agored yn y dyfodol.”
/Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth am Contemporary Wales ewch i: www.openuniversity.co.uk/coursewales
I gael rhagor o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru, ewch i: www.uwp.co.uk
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk 02920 376991