Lawns Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru yn lwyddiant ysgubol

Wedi ei bostio ar 11 Mawrth 2010
UOWDTPl1

O'r chwith i'r dde: Robert Pinsky, Tessa Dahl a'r Athro Peter Stead

‘Roedd yna nifer o enwau adnabyddus o’r byd llenyddol yn bresennol yn lawns Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru yn Boston, UD, yr wythnos ddiwetha.  Yn eu plith oedd Tessa Dahl, merch Roald Dahl; cyn Fardd Llawryfog yr UD, Robert Pinsky a golygydd yr Harvard Review, Christina Thompson. ‘Roedd y gynulleidfa hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr o rai o Brifysgolion gorau’r byd yn cynnwys Harvard ac MIT yn ogystal â chymdeithasau Cymreig yr U.D. megis y Cymrodorion Cymraeg a ddaeth yn llu i ddathlu’r lawns ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Yn ran o wythnos o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cynulliad Cymru yn yr U.D. ‘roedd y noson yn cynnwys darlith arbennig gan Gadeirydd y Wobr, yr Athro Peter Stead a darlleniadau gan yr awdures, Tessa Dahl; y bardd, Robert Pinsky a’r Athro Kurt  Heinzelman.

Eleni bydd y Wobr yn derbyn ceisiadau gan ysgrifennwyr straeon byrion, dramodwyr, ysgrifennwyr ffilm a nofelwyr. Esboniodd yr Athro Stead sut mae’r Wobr yn adlewyrchu doniau amrywiol Dylan Thomas ei hun:

“Rydym wedi dewis y fformat unigryw hwn fel adlewyrchiad o ysgrifennu Dylan Thomas –‘roedd e’n fardd, ysgrifennwr a dramodydd. Yn ei fywyd byr-hoedlog, ‘roedd yn feistr ar ystod eang o ffurfiau llenyddol. Yn union fel Gwobrau’r Nobel a’r Pulitzer, mae’n beirniaid yn chwilio am y safon uchaf posibl.”

Mae’r Wobr sydd wedi bod yn weithredol ers 2006 yn cynnig rhodd ariannol o £30,000 a gyfrannwyd gan Brifysgol Cymru i’r enillydd. Mae’r lawns yn Boston yn crisialu ei henw da fel un o’r gwobrau llenyddol a rhyngwladol uchelaf ei pharch.

Yn seren-roc o fardd, ‘roedd Dylan Thomas yn ymwelydd cyson i’r UD ac mewn cyd-ddigwyddiad hynod, Mawrth 1 1950 oedd y tro cyntaf iddo berfformio yn yr UD yn Boston . Perfformiodd Dylan ei farddoniaeth a’i ddramau ledled y wlad nes iddo farw yn Efrog Newydd yn 39 oed yn 1953.

Bydd gwahoddiad yn cael ei estyn i’r rhai a ddetholir i’r rhestr fer eleni i ddod i’r DU i gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau allweddol yn ymwneud â’r Wobr, yn ogystal â chymryd rhan mewn rhaglen o waith ymestyn addysgol - DylanED - gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion, a yrrir ar y cyd gan brif noddwr y Wobr, Prifysgol Cymru.

Dywedodd yr Athro Marc Clement, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru:

“Mae Gwobr Dylan Thomas yn ei sefydlu ei hun fel un o asedau diwylliannol mawr Cymru. Mae cwmpas a dyheadau byd-eang y Wobr, ei phwyslais ar ieuenctid a meithrin rhagoriaeth yn gwbl gyson ag amcanion Prifysgol Cymru ac rydym ni’n falch i fod yn Brif Noddwr swyddogol.”

 “Mae rhaglen addysgol DylanED yn hynod o bwysig i Brifysgol Cymru. Fel corff sy’n ymrwymedig i ddatblygiad ac addysg pobl ifanc, mae’n gweddu’n berffaith i ni.”

Cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli, Peter Florence, unwaith eto fydd cadeirydd y panel dyfarnu, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Mehefin. Rhaid i geisiadau am y Wobr gael eu cyflwyno gan gyhoeddwr, golygydd, asiant llenyddol, neu yn achos sgriptiau ffilm a dramâu llwyfan, cynhyrchydd, erbyn 30 Ebrill 2010. Rhaid i’r llenorion fod rhwng 18 a 30 mlwydd oed, a rhaid i’r gweithiau llenyddol fod wedi’u cyhoeddi o fewn y flwyddyn ddiwethaf i fod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Dylan Thomas, a rheolau a chanllawiau llawn y gystadleuaeth, ewch i www.dylanthomasprize.com

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysyllter â Natasha Fulford yn MGB PR: Ff: +44 (0)1792 460200. E: Natasha@mgbpr.com

 I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau