Wedi ei bostio ar 29 Gorffennaf 2010

Stondyn Prifysgol Cymru
Mae Prifysgol Cymru’n gwahodd pawb a fydd yn mynychu Eisteddfod Genedlaethol 2010 yng Nglyn Ebwy i ymweld â’n stondin ac i gymryd rhan yn ein llu o ddigwyddiadau. Rydym hefyd yn falch mai ni yw prif noddwr Pabell Lên yr Eisteddfod unwaith eto eleni.
Rhwng 31 Gorffennaf a 7 Awst, bydd stondin y Brifysgol, a leolir gyferbyn â’r Babell Lên, yn ferw o fenter a gweithgaredd o bob math a fydd yn apelio at bobl o bob oed. Gwahoddir y Cymraeg eu hiaith a’r di-Gymraeg, fel ei gilydd, i fynychu a chymryd rhan yn ein gweithdai, cwisiau, darlithoedd a lansiadau llyfrau – digwyddiadau a gynhelir ar stondin Prifysgol Cymru ei hun ac mewn nifer o leoliadau eraill o gwmpas Maes yr Eisteddfod, a fu gynt yn gartref i waith dur.
Gan ddechrau am 12 ganol dydd, dydd Iau, Awst 5, ar stondin Prifysgol Caerdydd, ceir lansiad cyhoeddiad newydd Gwasg Prifysgol Cymru, ‘The Fight for Paradise?’ gan Huw Thomas. Yn y gyfrol arloesol hon archwilir y dylanwadau niferus a fu ar dwf ysgolion Cymraeg eu cyfrwng yn ne-ddwyrain Cymru. Ar stondin Prifysgol Cymru ei hun, bydd Sarah Down yn trafod gwaith Uned Geiriadur y Brifysgol – bydd pawb sy’n gyfarwydd â’r iaith Gymraeg yn gwerthfawrogi’r dasg anferth a wynebwyd gan y tîm i gwblhau (ac adolygu) Geiriadur Prifysgol Cymru.
Ar stondin S4C am 6pm ddydd Iau, Awst 5, bydd Dr Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth yn lansio ei lyfr newydd, ‘A History of Independent Television in Wales’, a gyhoeddir hefyd gan Wasg Prifysgol Cymru. Yn y gyfrol hon, am y tro cyntaf erioed, telir sylw i gyfraniad ITV i hanes diwylliannol Cymru a Phrydain. Cawn glywed gan Dr Medhurst: i’r Rolling Stones wneud eu hymddangosiad teledu cyntaf oll ar ITV Wales yn ystod wythnos gyntaf darlledu ym mis Ionawr 1958; i’r rhaglen gyntaf yn Gymraeg ar ITV gael ei darlledu o Fanceinion ym mis Medi 1957, a thaw criw newyddion ITV Wales oedd y cyntaf i gyrraedd trychineb Aberfan yn 1966.
Cynhelir Darlith flynyddol Prifysgol Cymru eleni ar y dydd Gwener, Awst 6, yn y Babell Lên, am 12.45pm. Rydym yn ffodus iawn o gael croesawu’r bardd ifanc nodedig, Hywel Griffiths, a oedd ar restr fer Gwobr Llyfr Y Flwyddyn eleni. Y cwestiwn a godir gan Hywel yw: ‘A oes lle i’r bardd yn y Gymru gyfoes?’ O ystyried safon y beirdd o’r gorffennol a ddethlir dros y dyddiau blaenorol, fe ddylai’r sgwrs hon roi digon inni gnoi cil trosto.
Gobeithio y gallwch ymuno â ni ar gyfer rhai o’r digwyddiadau a restrir uchod; fodd bynnag, hyd yn oed os na fedrwch, bydd yn dda gennym eich creosawu i’n stondin lle bydd aelodau o’n staff yn fwy na hapus i ateb unrhyw ymholiad a all fod gennych am y Brifysgol. Bydd cwis plant dyddiol – gyda dau fersiwn ar gael, y naill ar lefel ysgol gynradd a’r llall ar lefel ysgol uwchradd – i gadw meddyliau ifanc yn brysur.
Cofiwch ddarllen ein pytiau newyddion ar Facebook a Twitter o'r maes a dewch at y dudalen hon yn ddyddiol i weld be fydd yn digwydd nesaf ar stondin Prifysgol Cymru yr wythnos hon!
/Diwedd
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoed ar safle’r Gwaith, Glyn Ebwy 31 Gorffennaf – 7 Awst 2010.
Nodiadau i Olygyddion:
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ac i weld ein tudalennau Twitter a Facebook ewch ar: www.cymru.ac.uk
Am fwy o wybodaeth am Eisteddfod Genedlaethol Cymru: http://www.eisteddfod.org.uk/
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru, os gwelwch yn dda: t.barrett@cymru.ac.uk