Prifysgol Cymru'n canolbwyntio ar lifogydd

Wedi ei bostio ar 6 Chwefror 2014
Simon Haslett camera

Yr Athro Simon Haslett yn siarad â’r cyfryngau am lifogydd arfordirol ym Môr Hafren

Wrth i dde orllewin Prydain barhau i ddioddef effeithiau stormydd y gaeaf, mae cymunedau lleol yn cyfrif y gost ac yn ceisio deall beth sy’n gyfrifol am y tywydd eithafol diweddar.

Mae arfordir Cymru a de orllewin Lloegr wedi cael eu taro’n arbennig o wael gan stormydd sydd wedi achosi erydu a llifogydd, gan effeithio pobl yn yr ardaloedd hyn yn ddifrifol.

Mae Simon Haslett, Athro Daearyddiaeth Ffisegol a Dirprwy Is-Ganghellor Cyswllt Prifysgol Cymru, yn arbenigwr ar lifogydd arfordirol a deall effaith newid hinsawdd. Ef hefyd yw awdur y gyfrol Coastal Systems ac mae’n ymrwymedig i helpu’r cyhoedd i ddeall gwyddoniaeth.Mae’r Athro Haslett wedi bod yn cynnal astudiaeth o arfordir Aber Hafren a Môr Hafren ers dros ugain mlynedd, ac mae wedi ymddangos sawl tro dros yr wythnosau diwethaf ar y radio a’r teledu, yn ymateb i gwestiynau a helpu i esbonio’r wyddoniaeth y tu ôl i’r sefyllfa gyfredol i’r cyhoedd.

Wrth siarad am y sefyllfa ar hyn o bryd, esboniodd yr Athro Haslett:

“Dyw’r llifogydd sy’n digwydd ar hyn o bryd o gwmpas arfordir Cymru a de orllewin Lloegr ddim yn ddigynsail - rydym ni wedi gweld gwaeth o lawer - ond mae’r ffaith fod y stormydd diweddar wedi cyrraedd un ar ôl y llall yn golygu nad yw’r llifogydd yn sgil un storm ddim wedi cael cyfle i ostegu’n llawn cyn i’r storm nesaf gyrraedd, gan waethygu’r broblem. Mae’r un peth yn wir am erydu arfordirol gan nad oes digon o amser rhwng y stormydd i atgyweirio amddiffynfeydd môr sydd wedi’u difrodi, sy’n golygu bod stormydd dilynol yn mynd at y gwendidau ac yn achosi erydu pellach.

Yn ystod stormydd, mae gwyntoedd y môr a phwysedd amgylcheddol isel yn gwthio’r dŵr yn erbyn amddiffynfeydd y môr felly pan ddaw’r llanw uchel mae’r dŵr yn croesi’r amddiffynfeydd gan achosi llifogydd arfordirol. Hefyd mae’r glaw trwm sy’n gysylltiedig â’r storm yn ceisio llifo i’r môr ond mae’n cael ei ddal yn ôl gan lifogydd yr arfordir, sy’n golygu bod llifogydd yr afonydd yn estyn am nifer o filltiroedd i mewn i’r tir.

Mae newid hinsawdd yn debygol iawn o fod yn cyfrannu at y sefyllfa drwy godi lefel y môr sydd yn ôl fy ymchwil i yn awgrymu ei fod yn codi tua 2.5mm y flwyddyn ym Môr Hafren, a thrwy gynyddu amledd a dwysedd stormydd. Mae’r hyn sy’n digwydd nawr yn cyd-fynd â’r hyn a ragwelwyd gan fodelau newid hinsawdd.

Ddydd Mawrth 4 Chwefror, ymddangosodd yr Athro Haslett ar BBC1 Points West, lle cafodd ei gyfweld am ei ymchwil i lifogydd yng Ngwlad yr Haf. Roedd y rhaglen hefyd yn dangos Canghellor Prifysgol Cymru, EUB Tywysog Cymru’n ymweld â’r cymunedau oedd wedi dioddef yn ardal Gwastadeddau Gwlad yr Haf.

Bydd yr Athro Haslett yn traddodi darlith gyhoeddus ar ei ymchwil i lifogydd 1607 ym Môr Hafren, sef trychineb naturiol gwaethaf Prydain, i Gymdeithas Hanes Lleol Casnewydd ddydd Mercher 5 Mawrth.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

Dolenni Tebyg