Wedi ei bostio ar 27 Ebrill 2017
Heddiw, bydd dros 300 o raddedigion Prifysgol Cymru, ynghyd â’u gwesteion, yn dod i ddigwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd i nodi diwedd eu hastudiaethau. Bydd ysgolheigion o bedwar ban byd yn dod i’r dathliadau graddio o wledydd mor bell â Tsieina, Affrica, India ac Ewrop.
Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Medwin Hughes DL, fydd yn arwain y seremonïau, a bydd pob un sy’n derbyn gradd yn cael cyfarchiad personol gan uwch Swyddogion Prifysgol Cymru. Bydd yr orymdaith yn cynnwys cynrychiolwyr o Brifysgol Cymru ynghyd â’n partner uno, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Bob blwyddyn, mae’r Brifysgol hefyd yn dyfarnu graddau er anrhydedd i gydnabod cyflawniad unigol mewn meysydd academaidd fel y celfyddydau, llenyddiaeth, gwyddoniaeth, masnach a diwydiant, bywyd proffesiynol a gwasanaeth i’r cyhoedd neu i’r Brifysgol. Eleni rydym ni’n cydnabod tri unigolyn:
Y Gwir Barchedig Dr Barry Morgan – Doethur mewn Diwinyddiaeth honoris causa
Ar ôl gwasanaethu am yn agos i 14 o flynyddoedd yn arwain yr Eglwys yng Nghymru, a 24 o flynyddoedd fel esgob, pan ymddeolodd ym mis Ionawr, Dr Barry Morgan oedd yr Archesgob hiraf ei wasanaeth yn y Gymundeb Anglicanaidd yn fyd-eang a hefyd un o’r esgobion hiraf ei wasanaeth. Mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol i fywyd Cymru a’r Eglwys yng Nghymru, gan hyrwyddo newid, annog sefydlu cysylltiadau cymunedol da ar draws y wlad ac ennill parch ac ymddiriedaeth fel cyfranogwr a sylwebydd ar nifer o faterion sy’n effeithio ar fywyd cyhoeddus y genedl. Fel Dirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru, mae ei gefnogaeth a’i gyngor wedi bod yn amhrisiadwy.
Yr Anrhydeddus Mrs Ustus Nicola Davies DBE – Doethur yn y Cyfreithiau honoris causa
Fel arweinydd yn y Gyfraith ac un sydd wedi torri sawl nenfwd gwydr, mae gyrfa’r Fonesig Nicola wedi mynd â hi o bractis cyfraith feddygol uchel ei broffil i’r Uchel Lys. Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ddod yn Gwnsler y Frenhines, a hithau hefyd yw’r gyntaf o Gymru i’w phenodi’n Ustus yr Uchel Lys, Adran Mainc y Frenhines ac i rôl Barnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru. Mae’r Fonesig Nicola, sy’n gyfreithiwr ac yn eiriolwr, yn arbenigwr mewn meddygaeth ac yn Farnwr yr Uchel Lys, bellach yn un o arbenigwyr cyfreithiol uchaf eu parch ein hoes.
Mr Hywel Gwynfryn – Athro yn y Celfyddydau honoris causa
Mae wyneb a llais Hywel Gwynfryn yn gyfarwydd i lawer yng Nghymru, gyda’i yrfa ddarlledu yn Gymraeg a Saesneg yn rhychwantu dros hanner can mlynedd. Ers ymuno a’r BBC yn 1964, mae wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad darlledu yng Nghymru, ers cyflwyno rhaglen bop Helo Sut Dach Chi? ar foreau Sadwrn yn y 1960au a’r 1970au, y rhaglen bop Gymraeg gyntaf erioed ar y radio, a’r rhaglen foreol Helo Bobol pan ddechreuodd gwasanaeth BBC Radio Cymru yn 1979. Ochr yn ochr â’i waith darlledu, mae hefyd wedi sefydlu dilyniant poblogaidd fel awdur, ac wedi ysgrifennu llu o ganeuon, sioeau a phantomeimiau i’r teledu a’r theatr. Mae Hywel wedi bod yn ffodus i gael teithio’r byd fel darlledwr, gan gyflwyno diwylliannau, credoau a ffyrdd newydd o fyw i gynulleidfa yng Nghymru, ac mae wedi gweithio’n ddiflino i hyrwyddo darlledu yn y Gymraeg.
Mae’n bleser gan y Brifysgol gydnabod y llwyddiannau a’r cyfraniadau y mae pob unigolyn wedi eu gwneud yn eu meysydd priodol, ac mae’n hynod o falch i’w croesawu oll fel Graddedigion Er Anrhydedd Prifysgol Cymru.
Bydd y graddedigion a’u gwesteion yn aros yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, fydd yn gyfle iddyn nhw ddod i’r digwyddiad poblogaidd a hefyd ymweld â’r ardal leol a’i hatyniadau, ac felly rhoi hwb i dwristiaeth Cymru a’r economi leol.
/DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Prifysgol Cymru - cyfathrebucymru.ac.uk