Gwasg Prifysgol Cymru yn cyrraedd rhestr hir Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2010

Wedi ei bostio ar 21 Ebrill 2010
lewisedwardsfc

Mae cyfrol sy’n edrych ar ddarluniau Cymreig a greuwyd rhwng y 18g-20g a llyfr sy’n dathlu dau gan mlwyddiant genedigaeth Lewis Edwards, academydd Cymreig o’r 19g, wedi cyrraedd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2010.

Yn y categori Saesneg mae ‘The Meaning of Pictures’ gan Peter Lord wedi cyrraedd y brig. Dyma gyfrol sy’n edrych ar ddarluniau Cymreig o’r 18g i’r20g a thrafod pam maent yn dal i fod yn berthnasol i ni heddiw. Yn chwa o awyr iach, mae’r llyfr yn mynd dan groen sut mae’r defnyddiwr yn deall ac yn dadansoddi’r lluniau –y noddwyr, curaduron a’r cyhoedd-yn hytrach na manylu ar agenda’r darluniwr yn unig.

Gyda chyfres o bennodau ar wahanol agweddau o ddarlunio sy’n cael eu huno gyda thema gyffredin, mae Peter Lord yn tywys y darllenwr ar wibdaith trwy Gelf Cymru. Dyma’ch cyfle chi i ddysgu mwy am weithiau celf y 18g, ffurfiau celf y 19g a rhai o’n hartistiaid mwya blaengar o’r 20g. Mae Peter hefyd yn edrych ar sut mae’r lluniau yma’n cael eu gwerthuso gan Amgueddfeydd a’r farchnad gelf a sut, ers yr ‘80gau, mae’r sefydliad Celf Cymreig wedi ymladd brwydr adweithiol yn erbyn y symudiad Hanes Celf Newydd.

Unwyd y pennodau gyda’u ffocws ar sut mae traddodiad celf yn cael ei greu a pha effaith mae’r traddodiad hwnnw yn ei gael ar hunaniaeth cenedl a sut mae eraill yn ei gweld. Trafodwyd y lluniau a’r arlunwyr yng nghyd-destun llenyddiaeth cyfoes ac amgylchiadau cymdeithasol a gwleidyddol eu cyfnod. Mae’r awdur yn cymharu’r elfennau hyn gyda phrofiad diwylliannau eraill fel yr Unol Daleithiau a’r Iwerddon.

Cafodd ‘The Meaning of Pictures’ ei enwebu am Wobr nodedig Berger am Hanes Celf Prydeinig yn ddiweddar yn ogystal.

Mae llyfr yr Athro D. Densil Morgan ‘Lewis Edwards’ wedi cyrraedd rhestr hir y llyfrau Cymraeg eu hiaith. Dyma fywgraffiad o Lewis Edwards, (1809-87), un o ddeallusion mwya ei ddydd; dyn oedd yn dylanwadu ar agweddau a safbwyntiau nifer o weinidogion oedd yn lledu’r neges am bwysigrwydd addysg a diwylliant yng nghapeli Cymru.

O Geredigion yn wreiddiol, astudiodd Lewis Edwards ym Mhrifysgol Llundain a Chaergrawnt, yr unig brifysgolion oedd yn agored i Brotestaniaid Anghydffurfiol nad oeddent yn dilyn praidd yr Eglwys Genedlaethol. Ond fe wnaeth e hefyd ddysgu ac astudio yn ddiweddarach yn ei yrfa ym Mhrifysgol Rhydychen.

Trwy gydol ei fywyd, ‘roedd Lewis yn mynnu fod ei waith yn cwmpasu crefydd, diwylliant seciwlar, athronyddiaeth a llenyddiaeth. Yn wir, gallwn ddadlau mai Lewis oedd un o dadau y Gymru fodern. Diolch i’w ddylanwad ar genedlaethau o bregethwyr a gweinidogion, lledodd ei feddylfryd trwy Gymru gyfan. Trwy ei waith yn y gylchgrawn chwarterol, ‘Y Traethodydd’ a sefydlodd yn 1845 ac a olygodd am ddeng mlynedd, llwyddodd i addysgu nifer o’i gyd Gymry am faterion llenyddol a chrefyddol o bwys.

Dywedodd Helgard Krause, Pennaeth Gwasg Prifysgol Cymru:

“Rydym wrth ein boddau bod dau o’n cyhoeddiadau wedi cael eu cydnabod yn y fath fodd. Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad holl bwysig yn y calendr cyhoeddi yng Nghymru a gobeithiwn yn fawr y bydd y ddau awdur yn cyrraedd y rhestr fer.”

Bydd y Rhestr Fer yn cael ei chyhoeddi ar Ddydd Sul, Mehefin 6 yng Ngŵyl y Gelli gyda’r enillwyr yn cael eu datgelu ar Ddydd Mercher, Mehefin 30 mewn seremoni wobrwyo yng Ngwesty St David ym Mae Caerdydd.

/Diwedd

Am fwy o wybodaeth am Wasg Prifysgol Cymru ewch i: www.uwp.co.uk

Am fwy o wybodaeth am Lyfr y Flwyddyn 2010 ewch i wefan Academi: www.academi.org/

Am wybodaeth y wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk 02920 376991

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori