Myfyrwyr UWIC yn brwydro canser dros Movember

Wedi ei bostio ar 2 Tachwedd 2010
movember1

Movember

Pam mae codi arian ar gyfer elusen mor aml yn meddwl wneud ryw fath o sialens poenus a corfforol?

Beth os, yn wirionedd, eich bod yn gwybod na fyddwch yn gallu rhedeg 26.2 milltir wedi gwisgo lan fel pysgodyn?

Diolch byth, mae ‘na ffordd llai poenus a llawer mwy chwaethus o wneud gwahaniaeth. Yn dechrau ar 1 Tachwedd, bydd myfyrwyr o Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) yn cymryd rhan mewn Movember; digwyddiad elusennol mis o hyd i godi arian ac ymwybyddiaeth am faterion iechyd dynion, heb fod cyfranogwyr orfod gwneud unrhywbeth mwy nag ychydig o ymbincio sylfaenol.

Mae’r syniad yn syml: i gymryd rhan yn Movember, bydd rhaid i fyfyrwyr tyfu fwstas trwy gydol fis Dachwedd 2010, gyda'r prif nod sef i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer yr un ganser sy’n effeithio ar ddynion y mwyaf - canser y prostad. Bydd yr ymgyrch yn cychwyn 1 Tachwedd (12.00pm) gyda’r digwyddiad 'Movember Starter Shave', pryd fydd y holl fyfyrwyr a staff yn cael eu hannog i ddod draw i Undeb y Myfyrwyr (Campws Cyncoed) am eilli glân,cyn cychwyn ar 30 diwrnod o dyfu fwstas....(cliciwch i ddarllen mwy)

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori