Nawdd Sony yn dod â Gwobr Brifysgol Cymru Dylan Thomas i'r oes ddigidol

Wedi ei bostio ar 8 Mehefin 2010
sonydylan

Sylfaenydd y gwobr Peter Stead gyda Sian Newman a Omar Gurnah

Gŵyl Guardian y Gelli oedd y lleoliad addas ar gyfer lansio categori newydd yr e-lyfr yng Ngwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru eleni.

Ar 2 Mehefin cyhoeddwyd y byddai Sony UK yn noddi’r is-gategori a elwir ‘Gwobr Sony Reader i Lenorion sydd heb eu Cyhoeddi’.

Prif Wobr Dylan Thomas yw’r wobr lenyddol fwyaf i bobl ifanc ledled y byd. Fe’i sefydlwyd yn 2006 i gydnabod gwaith rhyngwladol y bardd dinesig avant garde, a gyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth pan oedd yn 21 oed.

Bydd y categori newydd yn cydnabod gwaith nofelwyr o Brydain dan 30 nad ydynt wedi cyhoeddi cyfrol a bydd rhaid ymgeisio’n electronig gan ddefnyddio fformatau addas i’r e-lyfr.

Yn ystod y digwyddiad lansio, disgrifiwyd Peter Stead, sylfaenydd a beirniad Gwobr Dylan Thomas fel ‘trysor cenedlaethol ac ased i lenorion crai nad ydynt wedi’u darganfod eto’ gan Peter Florence, Cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli a Chadeirydd Panel Dyfarnu Gwobr Dylan Thomas.

Yn dilyn hyn, mynegodd Peter Stead ei falchder bod Sony â diddordeb mewn hyrwyddo ysgrifennu newydd:

‘Mae’n anrhydedd fawr i ni gael bod yn rhan o Wobr y Sony Reader. Rydym ni wastad wedi bod ag ymrwymiad i ysgrifennu newydd, ac mae’r wobr newydd hon yn cynnig rhywbeth i lenorion newydd anelu ato ac mae’n ychwanegiad cyffrous i Wobr Dylan Thomas.’

Pwysleisiodd Omar Gurnah, Rheolwr Marchnata y Sony Reader, na fu erioed yn fwriad gan Sony i ddisodli llyfrau - i’r gwrthwyneb. Mae ymchwil marchnad Sony, meddai, yn dangos bod 70% o ddefnyddwyr e-lyfrau Sony yn darllen llawn cymaint o lyfrau ag erioed, ond eu bod yn defnyddio’r e-lyfr yn ogystal, ac felly yn cynyddu faint y maent yn ei ddarllen. Disgrifiodd y wobr newydd fel ‘math o X-factor i awduron ifanc – ond heb y darnau diflas’.

/Diwedd


Nodiadau i Olygyddion

Bydd angen cyflwyno ceisiadau e-lyfr ar fformat PDF, Word neu EPUB drwy wefan y Reader www.sony.co.uk/reader rhwng 1 Gorffennaf a 31 Awst, a chaiff y llenorion ar y rhestr fer eu hysbysu ym mis Medi. Caiff enw enillydd y wobr ei gyhoeddi yn Seremoni Wobrwyo Gwobr Dylan Thomas ar 1 Rhagfyr 2010.

Mae’r gofynion mynediad canlynol yn berthnasol i Wobr Sony Reader i Lenorion sydd heb eu Cyhoeddi:
• Rhaid i ymgeiswyr fod dan 30 oed
• Rhaid i ymgeiswyr fyw yn y DU
• Caiff ymgeiswyr gyflwyno nofelau yn unig (dim barddoniaeth, dramâu ac ati)
• Rhaid i ymgeiswyr fod yn unigolion na chyhoeddwyd eu gwaith cyn hyn
• Yr isafswm geiriau yw 80,000

I gael rhagor o wybodaeth am y wobr a’r gofynion, ewch i www.sony.co.uk/reader

Gwobr Dylan Thomas:
Lansiwyd Gwobr flynyddol Dylan Thomas yn 2006, yn wobr lenyddol ryngwladol â'r nod o annog talent greadigol newydd yn fyd-eang ac mae ar agor i unrhyw lenorion ffuglen dan 30 oed sydd wedi cyhoeddi yn yr iaith Saesneg. Mae’r wobr, sydd werth £30,000 yn un o wobrau mwyaf y byd llenyddol. Noddir Gwobr Dylan Thomas 2010 gan Brifysgol Cymru. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.dylanthomasprize.com.

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch i: www.cymru.ac.uk
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk




Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau