Aelod o Gynghrair PC yn cynnig mwy o leoedd clirio i fyfyrwyr newydd

Wedi ei bostio ar 18 Awst 2010
SwanseaMet

Prifysgol Metropolitan Abertawe

Oherwydd y cynnydd sylweddol mewn ceisiadau a’r toriadau ar niferoedd myfyrwyr, mae Prifysgol Metropolitan Abertawe, aelod o Gynghrair Prifysgol Cymru, yn cynnig mwy o leoedd ‘Clirio’ ar gyrsiau penodol yr wythnos hon.

Bydd y Brifysgol yn cynnig 100 o leoedd yn bennaf ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Matthemateg, sy’n bynciau blaenoriaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae yna hefyd nifer fach o leoedd ar gael ar gyrsiau busnes, cynghori a seicoleg. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr llawn o gyrsiau sydd ar gael ar www.smu.ac.uk ac os hoffech drafod eich opsiynau fel drapar fyfyriwr, cysylltwch â Chofrestrfa Prifysgol Metropolitan Abertawe ar 0800 731 0884.

I ddarganfod mwy am leoedd ‘clirio’ ym Mhrifysgolion eraill Cynghrair Prifysgol Cymru ewch i’r gwefannau yma: 

 Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan:
www.llambed.ac.uk/clirio
 
Prifysgol Glyndŵr:
www.glyndwr.ac.uk/

Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd UWIC):
www.uwic.ac.uk 

University of Wales Newport:
www.newport.ac.uk/

/Ends

Nodiadau i Olygyddion:

Mae Prifysgol Metropolitan Abertawe yn ran o Gynghrair Prifysgol Cymru sy’n cynnwys Prifysgol Cymru; Prifysgol Glyndwr; Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC); Prifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol newydd y Drindod Dewi Sant. Mae Cynghrair Prifysgol Cymru yn cydweithio i gyfoethogi ac i wella Addysg Uwch yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Prifysgol Metropolitan Abertawe: Steven Stokes, 01792 483695 neu ebostiwch: pressoffice@smu.ac.uk
 
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i’n gwefan: www.cymru.ac.uk
Am wybodaeth i’r Wasg a’r Cyfryngau , cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@wales.ac.uk
Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau