Wedi ei bostio ar 7 Chwefror 2013

Dr Gavin Bunting
Yn dilyn proses gystadleuol, mae'r Academi Addysg Uwch wedi penodi cynullwyr i arwain dau Grŵp Diddordeb Arbennig ar Ryngwladoli. Yn eu plith mae Dr Gavin Bunting, Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru.
Bydd Dr Bunting yn cynnull y Grŵp Diddordeb Arbennig - Addysg Trawsgenedlaethol, a bydd Dr Sue Robson (Prifysgol Newcastle), Dr Scott Burgess a Dr Diane Sloan (Prifysgol Northumbria) yn cynnull y Grŵp Diddordeb Arbennig - Rhyngwladoli’r Cwricwlwm.
Gan adlewyrchu blaenoriaethau rhyngwladoli’r AAU, bydd y Grŵp Diddordeb Arbennig - Addysg Trawsgenedlaethol yn canolbwyntio ar hybu dysgu ac addysgu o ansawdd uchel ar raglenni tramor.
Wrth sôn am ei benodiad a’i amcanion am y grŵp, dywedodd Dr Bunting:
“Mae hwn yn gyfle gwych i’r sector AU yn y DU gydweithio ar ymdrin â rhai o’r materion pwysig mewn addysg drawsgenedlaethol. Yn ganolog i waith y grŵp bydd canolbwyntio ar sut i sicrhau profiad cydradd i fyfyrwyr lle bynnag y caiff y rhaglenni eu cyflenwi, ynghyd â chanfod trefniadau a chymorth i alluogi addysgu a dysgu o ansawdd uchel.
Bydd y grŵp yn dynodi ymarfer da ac yn datblygu adnoddau priodol i helpu i gynnal ansawdd ac enw da graddau’r DU.
Hoffwn annog staff mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU sydd â diddordeb mewn datblygu dysgu ac addysgu o ansawdd uchel ar raglenni trawsgenedlaethol i gysylltu â mi am wybodaeth bellach ar sut i ymuno â’r grŵp.”
Bydd y grwpiau’n weithredol yn y lle cyntaf tan fis Gorffennaf 2013. Bydd y ddau grŵp yn derbyn £4000 yr un i hwyluso’r gwaith ac yn gyfnewid am y cyllid, bydd disgwyl i’r grwpiau gynhyrchu o leiaf un cynnyrch ymarferol i’r sector AU yn y DU megis adnodd, offeryn neu ganllaw a fydd yn hybu ymglymiad â thema eu Grŵp.
/Diwedd
Yn ogystal â gwybodaeth ychwanegol am bob grŵp, gallwch wybod rhagor am waith yr AAU ar Ryngwladoli ar eu gwefan – www.hea.ac.uk
I ymuno â’r Grŵp Diddordeb Arbennig - Addysg Trawsgenedlaethol, ebostiwch Dr Gavin Bunting: g.bunting@cymru.ac.uk