Athro PC i arwain adolygiad annibynnol Llywodraeth Cymru

Wedi ei bostio ar 16 Ionawr 2013
DJE WG Review

Mewn Datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw, mae’r Gweinidog Busnes Edwina Hart wedi cyhoeddi mai’r Athro Dylan Jones-Evans, Cyfarwyddwr Canolfan Menter ac Arloesi Prifysgol Cymru, fydd yn arwain Adolygiad i fynediad at gyllid busnes ar gyfer BBaChau yng Nghymru.

Caiff yr adolygiad annibynnol ei lansio gan Lywodraeth Cymru a bydd yn sefydlu a yw banciau’r Stryd Fawr yn diwallu anghenion cyllid BBaChau Cymru ac yn archwilio ffynonellau posibl eraill o gyllid i gefnogi’r gymuned fusnes yng Nghymru.

Wrth sôn am benodiad yr Athro Jones-Evans dywedodd y Gweinidog:

“Rwyf i wrth fy modd fod yr Athro Dylan Jones-Evans wedi cytuno i ymgymryd â’r adolygiad hwn o fynediad at gyllid busnes yng Nghymru ac rydym ni’n disgwyl y bydd canfyddiadau pwysig yn deillio ar gyfer polisi economaidd.

Mae mynediad at gyllid allanol ar gyfer busnesau newydd a buddsoddi ar gyfer twf mewn busnesau Cymreig yn sylfaenol i sicrhau twf economaidd cynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru’n arbennig o awyddus i sicrhau bod BBaChau yng Nghymru’n gallu cael mynediad at y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i gynnal eu gweithrediadau cyfredol a chefnogi eu huchelgais o ran twf.”

Wrth siarad am yr adolygiad dywedodd yr Athro Jones-Evans:

“Mae pryder sylweddol fod yr adferiad economaidd yng Nghymru’n cael ei ddal yn ôl oherwydd y diffyg cyfalaf i fusnes allu datblygu a thyfu. Er bod BBaChau yn dadlau nad ydyn nhw’n gallu cael cyllid gan sefydliadau ariannol, mae cyrff megis banciau’n dadlau i’r gwrthwyneb, gan awgrymu fod digon o gyllid ar gael i gefnogi’r sector.

Bydd yr adolygiad hwn yn ceisio symud y tu hwnt i’r rhethreg ac archwilio gwirionedd y sefyllfa, y datrysiadau sydd eu hangen i gael y cyfalaf i lifo i gymuned fusnes Cymru, a’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i hwyluso a chefnogi’r broses hon.”

Mae’r Athro Jones-Evans yn bwriadu trafod yr heriau hyn gyda sefydliadau ariannol, academyddion a rhanddeiliaid allweddol eraill sy’n cyflenwi arian i fusnesau ac mae’n annog cynifer â phosibl o fusnesau i ymateb yn gadarnhaol i’r alwad am dystiolaeth dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd: “Mae’n hanfodol fod gan BBaChau y cyfle i gyflwyno’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu dros y tair blynedd nesaf wrth geisio sicrhau’r cyllid sydd ei angen ar gyfer tyfu.”

Cynhelir yr Adolygiad mewn dwy ran. Bydd y gyntaf yn archwilio’r graddau y mae banciau’r Stryd Fawr yn cwrdd ag anghenion cyllido busnesau Cymreig, gan ganolbwyntio’n bennaf ar ofynion BBaChau, a bydd yr ail yn edrych ar ffynonellau amgen o gyllid a’r swyddogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae yn hwyluso eu datblygiad. Mae’r Gweinidog wedi gofyn am adroddiad yn ystod hydref 2013.

Drwy gydol yr Adolygiad, bydd yr Athro Jones-Evans yn cael cefnogaeth swyddogion Llywodraeth Cymru a grŵp ymgynghorol gwirfoddol yn cynnwys arweinwyr busnes ac arbenigwyr ariannol.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr alwad am dystiolaeth ar wefan Llywodraeth Cymru: ewch i www.wales.gov.uk/businessandeconomy

/Diwedd

Ceir datganiad llawn i’r wasg ar Wefan Llywodraeth Cymru

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau