Wedi ei bostio ar 23 Medi 2011

Iolo Morganwg
Edward Williams, neu i roi ei enw cyfarwydd, Iolo Morganwg (1747-1826), oedd creawdwr a thad yr Orsedd - cymuned unigryw o feirdd Cymru. Roedd yn gasglwr blaenllaw ac yn arbenigwr ar lenyddiaeth ganoloesol Cymru yn ei ddydd, a chafodd ei fywyd effaith pellgyrhaeddol ar ddiwylliant Cymru. Mae’n briodol felly fod academyddion ac awduron ar draws y cenhedloedd Celtaidd yn dal i ailymweld â’i etifeddiaeth a’i dathlu .
Darlith yw The Prince of Welsh Romantics: Iolo Morganwg and his legacy sydd am ddim i aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb, ac fe’i cynhelir ar 7 Hydref am 7pm yn Ysgol Gyfun y Bontfaen. Traddodir y ddarlith gan yr Athro Emeritws Geraint H Jenkins (DLitt FLSW FBA), a bydd yn olrhain taith ryfeddol Morganwg o fod yn Saer Maen i fod yn ffugiwr Llenyddol; sut yr helpodd ei ffugiadau i ddatblygu athroniaeth gyfriniol yr honnai ef oedd yn cynrychioli parhad uniongyrchol o arferion derwyddol hynafol, y credid iddynt ddod i ben gyda goresgyniad dinistriol y Rhufeiniaid; sut yr helpodd ei athroniaeth - cyfuniad o ddylanwadau Cristnogol ac Arthuraidd - a’i ysgrifennu toreithiog i ailsefydlu Cymreictod mewn ardal o Dde Cymru oedd yn gynyddol Seisnig.
Yr Athro Jenkins yw cyn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth. Bu hefyd yn Athro ac yn Bennaeth Adran Hanes Cymru yn yr hyn oedd ar y pryd yn Brifysgol Cymru, Aberystwyth, ac mae’n awdur dros ddeg ar hugain o lyfrau a thros gant o erthyglau ar amrywiaeth eang o bynciau. Mae wedi ysgrifennu’n benodol ar hanes Cymru fodern gynnar a Chymru fodern. Mae’n credu’n gryf mewn prosiectau ymchwil cydweithredol, ac yn olygydd cyffredinol tair cyfres lwyddiannus: ‘Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg’, ‘Diwylliant Gweledol Cymru’ a ‘Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru’, y cyfan wedi’u cyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru. Yn 2002 fe’i hetholwyd yn Gymrawd yr Academi Brydeinig ac mae ar hyn o bryd yn aelod o Gyngor yr Academi Brydeinig.
Cynhelir y ddarlith i godi ymwybyddiaeth am Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012 (4-11 Awst).
I gael rhagor o fanylion ac i gofrestru eich diddordeb, ffoniwch: (01446) 774530 neu e-bostiwch:
johnwyn@btinternet.com /Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd:
http://www.wales.ac.uk/cy/CentreforAdvancedWelshCelticStudies/IntroductiontotheCentre.aspx I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau am Brifysgol Cymru, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru:
t.barrett@cymru.ac.uk