Wedi ei bostio ar 17 Mai 2010
Mae 'The Meaning of Pictures' wedi cyrraedd rhestr hir Gwobr Llyfr y Flwyddyn ac wedi cyrraedd rhestr fer Dyfarniad Berger yn barod a dyma'ch cyfle chi i ddysgu mwy am yr awdur arobryn hwn a'i waith diweddaraf.
Edrych ar ddarluniau Cymreig o’r 18g i’r 20g a wna ‘The Meaning of Pictures’ a thrafod pam maent yn dal i fod yn berthnasol i ni heddiw. Yn chwa o awyr iach, mae’r llyfr yn mynd dan groen sut mae’r defnyddiwr yn deall ac yn dadansoddi’r lluniau –y noddwyr, curaduron a’r cyhoedd-yn hytrach na manylu ar agenda’r darluniwr yn unig.
Yn gyfrol sy'n procio'r meddwl ac yn plesio'r lygad, mae 'The Meaning of Pictures' yn dangos maint ymchwil a gwybodaeth Peter Lord.
I ddysgu mwy am resymau'r awdur dros greu'r gwaith hwn, gallwch archebu'ch tocyn ar gyfer ei gyfweliad trwy ffonio Swyddfa Docynnau ar 01497 822 629.
Byd rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2010 yn cael ei gyhoeddi ar Ddydd Sul, Mehefin 6, yng Ngwyl y Gelli, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar Ddydd Mercher, Mehefin 30 mewn seremoni arbennig yng Ngwesty St David's Caerdydd. Bydd enillydd Dyfarniad Berger yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
I archebu'ch copi o 'The Meaning of Pictures' neu am fwy o wybodaeth ewch i: http://www.uwp.co.uk/
Am wybodaeth i'r wasg a'r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru:
t.barrett@cymru. ac.uk 02920 376991