Wedi ei bostio ar 9 Mai 2016
Bydd Cylchgrawn Addysg Cymru gyda chefnogaeth Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain ac mewn partneriath â Gwasg Prifysgol Cymru yn cynnal cynhadledd undydd yn Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd ar 25 Mai, 2016 ar Dyfodol Dysgu Proffesiynol yng Nghymru: Polisi ac Ymarfer wedi’u llywio gan Ymchwil.
Y prif siaradwyr fydd yr Athro David James a’r Athro Mark Hadfield o Brifysgol Caerdydd a’r Athro Andy Goodwin o CUREE. Hefyd ceir cyfraniadau gan athrawon-ymchwilwyr, Cyngor Gweithlu Addysg Cymru a Llywodraeth Cymru.
Rhaglen
9.15-9.30
Cyrraedd a lluniaeth
9.30-9.45
Croeso gan Gylchgrawn Addysg Cymru a Chymdeithas Ymchwil Addysg Prydain
9.45-11.15 - Andy Goodwyn, CUREE: Practising what we preach: research that demonstrates how truly effective professional learning benefits both teachers and pupils.
Mark Hadfield, Prifysgol Caerdydd: Supporting beginning Teachers in Wales: Insights from the Masters in Educational Practice
Cwestiynau a thrafodaeth
11.15-11.30
Lluniaeth
11.30-12.30 - Yr Athro David James, Prifysgol Caerdydd: Why professional identity is pivotal to quality- the case of Further Education
Cwestiynau a thrafodaeth
12.30-13.15
Cinio
13.15- 14.15
Cyfraniadau gan athrawon/ymchwilwyr proffesiynol
14.15-15.15
Cyfraniad gan Hayden Llewellyn a Bethan Stacey o Gyngor y Gweithlu Addysg ac Helen Arthur o Lywodraeth Cymru
Mae llefydd am ddim ond mae angen i’r sawl sy’n dod gofrestru ar gyfer y digwyddiad er mwyn i ni wneud trefniadau arlwyo priodol.
Am fwy o fanylion, ac i gadw eich lle, cysylltwch â Tegan Waites yng Nghanolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg - Tegan.waiteswales.ac.uk.
Bywgraffiadau Siaradwyr
Yr Athro Andy Goodwyn: Cyfarwyddwr Ymchwil CUREE a than yn ddiweddar Pennaeth y Sefydliad Addysg ym Mhrifysgol Reading lle mae’n parhau’n Athro. Ar ôl 12 blynedd o ddysgu Saesneg mewn ysgolion symudodd i weithio ym maes addysg athrawon ac ymchwil. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar addysg iaith gyntaf, pwysigrwydd technolegau digidol a chysyniad arbenigedd athrawon. Mae wedi gweithio gydag athrawon ar eu datblygiad proffesiynol ers dros 25 mlynedd ac wedi arwain nifer o raglenni Meistr yn y DU a thramor. Mae wedi cyhoeddi’n eang gan gynnwys cyfrolau awdur unigol ac wedi’u golygu, mae wedi cyfrannu i nifer o gyfnodolion ysgolheigaidd ac wedi traddodi darlithoedd a chyflwyniadau ledled y byd. Mae ar fwrdd golygyddol nifer o gyfnodolion. Ar hyn o bryd mae’n Llywydd Ffederasiwn Rhyngwladol Dysgu Saesneg ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.
Mark Hadfield: Athro Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd gyda chefndir mewn ymchwilio datblygiad proffesiynol ac arweinyddiaeth. Mae ganddo ymrwymiad cryf i ymchwil cyfranogol a dysgu cydweithredol ac mae wedi gweithio’n rhyngwladol i gefnogi datblygiad rhwydweithiau ysgolion. Mark oedd Cyfarwyddwr blaenorol y cwrs Meistr mewn Ymarfer Addysgol ac roedd yn ganolog yn y gwaith o’i gynllunio a’i gyflwyno, ac ar hyn o bryd mae’n gwerthuso ei effaith. Ei gyfrol ddiweddaraf yw Practice Leadership in the Early Years: Becoming, Being and Developing as a Leader (2015). Mae ei waith ar ddefnyddio technoleg fideo o fewn ymchwil addysgol i’w weld ar http://www.uprg.co.uk
David James: Athro yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, a Chyfarwyddwr Canolfan Hyfforddi Doethurol Cymru yr ESRC. Ef yw Cadeirydd Golygyddion Gweithredol y British Journal of Sociology of Education ac fe’i hetholwyd yn aelod o Gyngor BERA. Mae ei ymchwil yn cwmpasu cwricwlwm, dysgu ac asesu mewn ysgolion, AB ac AU a’r berthynas rhwng polisi/ymarfer addysgol ac anghydraddoldeb cymdeithasol. Bu’n gyfrifol am lawer o brosiectau ymchwil a gwerthusiadau, gan gynnwys cyd-gyfarwyddo dau brosiect a gyllidwyd gan ESRC. Mae’n gydawdur adroddiad diweddar i Lywodraeth Cymru Meithrin Addysg Bellach Alwedigaethol Ansawdd Uchel yng Nghymru. Mae mwy o’i waith i’w weld ar http://cardiff.academia.edu/DavidJames