Wedi ei bostio ar 14 Mawrth 2014
Fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Dylan Thomas, mae ein partner uno, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi Gwobrau Dylan Thomas PCDDS sy’n dathlu rhagoriaeth yn y celfyddydau ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.
I annog rhagoriaeth mewn barddoniaeth, mae’r Brifysgol wedi lansio cystadleuaeth ryngwladol i feirdd, Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas am Farddoniaeth.
CYTGORD: briff creadigol
Gwahoddir beirdd o bob cwr o’r byd i gyflwyno cerdd unigol o hyd penodol, sydd heb ei chyhoeddi’n flaenorol, mewn ymateb i’r gair “Cytgord” erbyn 31 Mawrth 2014.
Bydd panel dethol yn dewis rhestr fer o gerddi, a dewisir yr enillydd o blith y rhain. Caiff y gerdd fuddugol ei pherfformio yn noson agoriadol yr Arddangosfa o Waith Gwydr Rhyngwladol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ym mis Gorffennaf 2014.
Cyflwynir gwobr o £2000 i’r buddugol ac arddangosir copi o’r gerdd am y flwyddyn nesaf yng Nghanolfan Dylan Thomas Prifysgol Cymru. Bydd gwahoddiad i’r cerddi ar y rhestr fer gael eu cynnwys mewn cyhoeddiad dilynol i ddathlu’r ddwy wobr ryngwladol.
Mae briff manwl ar gyfer y Wobr am Farddoniaeth, yn amlinellu’r camau a’r dyddiadau ar gyfer cyflwyno’r gwaith, i’w gael ar wefan Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, yma.